Arolwg 2026 yn dod yn fuan: 13 Ebrill 2026!
Disgyblion sy'n llywio'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, gan ddarparu mewnwelediad amhrisiadwy mae modd ei ddefnyddio i ddylanwadu ar iechyd a lles pob plentyn mewn ffordd gadarnhaol. Drwy gwblhau'r arolwg, byddwch chi'n gallu gwneud defnydd o ystod eang o ddata am iechyd a lles disgyblion eich ysgol benodol chi. Bydd hyn yn eich galluogi chi i adnabod meysydd â chryfderau a rhai sydd angen eu gwella, yn ogystal â meysydd sy'n effeithio fwyaf ar lefelau gweithgaredd corfforol eich disgyblion. Mae modd i'n carfan eich cefnogi chi i gwblhau'r arolwg a datblygu prosiectau yn seiliedig ar eich adroddiad.
Bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol ar agor o: Dydd Llun 13 Ebrill 2026 i Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
Gall disgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 11 gymryd rhan gan ddefnyddio dolen arolwg unigryw eu hysgol, a fydd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at ysgolion gan Chwaraeon Cymru.
Bydd cyfarwyddiadau llawn, dolenni arolwg, a manylion am sut i fod yn gymwys ar gyfer adroddiad ysgol unigryw yn cael eu hanfon at ysgolion ar 13 Ebrill 2026.
Pam ddylai eich ysgol chi gymryd rhan
Mae cymryd rhan yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn cynnig manteision clir i'ch ysgol a'ch dysgwyr. Mae'r arolwg yn cefnogi’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru yn llawn, gan helpu ysgolion i adlewyrchu ar y canlynol a’u deall:
- Pa chwaraeon a gweithgareddau mae disgyblion yn eu mwynhauBeth hoffent gael mwy o gyfleoedd i roi cynnig arnyn nhw
- Ble maen nhw'n mwynhau bod yn actif
- Sut maen nhw'n teimlo wrth gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Mae pob ysgol sy'n cymryd rhan yn derbyn adroddiad data penodol i'r ysgol, gan eich helpu i gynllunio a siapio eich darpariaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn seiliedig ar lais y disgyblion.
Mae'r arolwg hefyd yn casglu gwybodaeth werthfawr am y canlynol:
- Cyfleusterau lleol ar gael
- Cysylltiadau posibl â chlybiau cymunedol
- Adnoddau lleol eraill sy’n gallu cryfhau dull eich ysgol o weithredu
Yn genedlaethol, mae'r canfyddiadau'n helpu i arwain penderfyniadau allweddol sy’n cael eu gwneud gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru ar fuddsoddiad yn y dyfodol mewn chwaraeon a chyfleusterau hanfodol.