Gyda Chronfa Cymru Actif, gall clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â ffyrdd newydd o gyflwyno gweithgareddau a phrosiectau chwaraeon wneud cais am gyllid. Gall clybiau hefyd brynu offer hanfodol fel peli, bibiau, gwisg, ac offer chwaraeon arall, a gallant hefyd gyllido cyrsiau hyfforddi ar gyfer eu gwirfoddolwyr a all alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Pwy sy'n gymwys?
I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, rhaid i'ch sefydliad fod fel a ganlyn:
- Clwb chwaraeon neu sefydliad cymunedol nid-er-elw.
- Cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl Cymru yn bennaf.
- Mae’r cyllid yn gymwys ar gyfer prosiectau neu weithgareddau sydd heb ddechrau eto.
- Defnyddio’r arian ar gyfer y gymuned gyfan, nid dim ond er budd ysgol benodol.
- Bodloni gofynion y ffurflen Mynegi Diddordeb.
- Hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn prosiectau chwaraeon.
- Dangos sut bydd y prosiect yn cynyddu mynediad i weithgarwch corfforol.
Sut mae cyllid yn cael ei ddyfarnu?
Y dyfarniad lleiaf yw £300 a'r dyfarniad mwyaf yw £50,000*.
Dyfernir y cyllid ar raddfa symudol:
- Grant o 100% hyd at £10,000
- Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
- Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
* Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau o fwy na £10k neu 20% am fwy na £25k.
Cael cymorth gyda'ch cais
Anfonwch e-bost atom ni: ChwaraeonRhCT@rhondda-cynon-taf.gov.uk
I wneud cais neu am fanylion pellach
Ewch i www.chwaraeon.cymru/grantiau-a-chyllid/cronfacymruactif/