Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Amgueddfa Pontypridd

 

Bridge Street, Pontypridd CF37 4PE

Mae Amgueddfa Pontypridd wedi'i lleoli mewn hen gapel a gafodd ei godi ym 1861, ac mae'n adrodd hanes y dref a'i phobl. Mae'r hen Gapel Bedyddwyr Cymraeg, sy'n sefyll wrth ymyl Hen Bont eiconig y dref, yn cynnwys modelau o gamlesi, pyllau glo a rheilffyrdd lleol ac archif o ffilmiau a lleisiau sy'n gofnod o hanes yr ardal. Mae organ bib ragorol yn dal i gael ei defnyddio yn ystod perfformiadau achlysurol yn yr amgueddfa. Ymhlith yr arddangosfeydd mae rhaglen glyweledol sy'n esbonio tarddiad y capeli ac sy'n olrhain dylanwad Anghydffurfiaeth ar y werin a thramor.