Mae Neuadd y Dref Llantrisant yn ganolfan treftadaeth hynod o ddiddorol i ymwelwyr sy’n adrodd hanes arbennig y dref fechan hynafol ar y bryn.
Mae’r adeilad rhestredig Gradd II wedi sefyll ochr yn ochr ag adfeilion y Castell Normanaidd ers saith canrif, ac yn ddiweddar mae wedi elwa o waith adfer gwerth £1.4miliwn sydd wedi rhoi bywyd newydd iddi.
Mae’r Ystafell Lys yn gartref i gasgliad o arteffactau a thrysorau, gan gynnwys prysgyll arian prin o'r 17eg ganrif sydd wedi goroesi'r Rhyfel Cartref yn Lloegr ac sy'n hŷn na'r ystafell lys yn Nhŷ’r Cyffredin.
Dewch i ddysgu rhagor am draddodiadau unigryw Rhyddfreinwyr Llantrisant. Cyflwynodd yr Arglwydd Morgannwg siarter i’r Rhyddfreinwyr yn 1346 ychydig cyn iddyn nhw frwydro’n llwyddiannus dan enw’r Tywysog Du yn ystod Brwydr Crecy.
Mae plant yn mwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd rhyngweithiol, helfeydd trysor, cystadlaethau a chwarae rôl mewn gwisgoedd o’r canol oesoedd yn Neuadd y Saethyddion.
Mae nifer ohonyn nhw hyd yn oed yn rhoi cynnig ar gystadleuaeth saethyddiaeth mewn tref a oedd yn brolio am ei fyddin o Saethyddion bwa hir talentog.
Ceir arddangosfeydd yn ymwneud â’r hynod Dr William Price, straeon am frwydrau gwaedlyd a Brenhinoedd Lloegr a gafodd eu dal, a bydd y rhain yn siŵr o hudo ymwelwyr. Mae hefyd siop anrhegion hyfryd.
Mae’r adeilad prydferth o’r 14eg ganrif yn lleoliad poblogaidd ar gyfer achlysuron arbennig, ac mae ganddo drwydded i gynnal priodasau. Mae modd llogi’r adeilad yn breifat ar gyfer cynadleddau neu gyfarfodydd, ac mae hyn yn cynnwys defnydd o’r gegin a mynediad i bobl anabl i’r ddau lawr.
Bydd ymwelwyr Neuadd y Dref Llantrisant wrth eu boddau'n cael eu hudo a'u swyno gan y rhaglen nodedig o siaradwyr gwadd, arddangosfeydd, ciniawau, cyngherddau, teithiau ysbrydion a theithiau cerdded wedi'u tywys, a llond llaw o weithgareddau i'r gymuned ar gaeau cyfagos y castell.
Mae Neuadd y Dref Llantrisant ar agor o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, 10am tan 4pm.