Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybr Treftadaeth Aberdâr

 
 
aberdare-heritage-walk-pic

Gan roi cipolwg diddorol ar hanes Tref Aberdâr, bydd y Llwybr Treftadaeth yma'n eich tywys o gwmpas safleoedd hanesyddol allweddol a lleoliadau Plac Glas, sy'n coffáu pobl, lleoedd ac achlysuron nodedig sy'n rhan o orffennol cyfareddol Aberdâr.

Ymhlith prif gyrchfannau'r llwybr mae Neuadd y Farchnad a groesawodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, cerflun o'r cymeriad lleol a cherddor enwog Caradog, a 'Bwthyn y Frenhines Mary', bwthyn glöwr traddodiadol yr ymwelodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary ag ef yn 1912.

Mae'r daith gerdded 0.75km o hyd yn cychwyn o Neuadd y Farchnad ac yn gorffen yn yr Hen Bush Inn yn y dref. Ar Lwybr Llafar Aberdâr cewch chi glywed lleisiau aelodau Cymdeithas Hanes Cwm Cynon sy wedi'i lleoli yn Amgueddfa Cwm Cynon (lleoliad 20 ar y map) ac mae'n gymar gwych i'r llwybr yma.

Nodwch fod y llwybr yn wastad ar y cyfan, er mae'n bosibl y bydd rhywfaint o dir anwastad.

Allwedd
Addasrwydd: cerddwyr, pellter byr.
Graddfa: Hawdd.
Tirwedd: amrywiol - ond yn wastad ar y cyfan (canol tref).
Pellter: Tua 0.75 milltir / 1.2 km.
Hyd y daith: Tua awr i gwblhau'r daith.
Lawrlwytho: Llyfryn Llwybrau Treftadaeth – Taith Gerdded Aberdâr