Skip to main content

Cyllid pwysig wedi'i sicrhau i leihau perygl llifogydd mewn cymunedau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y Cyngor wedi sicrhau dros £1.48 miliwn ar draws rhaglenni ariannu allweddol ar gyfer 2024/25 – a hynny er mwyn cyflawni gwaith lleol i liniaru llifogydd a chynlluniau wedi’u targedu i greu ffyrdd sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau o ran draenio tir ac amddiffyn rhag perygl llifogydd mewn cymunedau. Mae swyddogion yn nodi prosiectau, yn llunio achosion busnes ac yn cyflwyno ceisiadau am arian – tra bod arian cyfatebol y Cyngor yn cael ei glustnodi drwy raglen gyfalaf barhaus y priffyrdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei dyraniadau cyllid i Rondda Cynon Taf ar gyfer 2024/25 ar gyfer dwy raglen – £982,500 ar draws rhaglenni Grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach, a £500,000 drwy raglen y Gronfa Ffyrdd Cydnerth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi ei chymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer rhagor o gyllid, gwerth tua £3 miliwn, yn amodol ar y caniatâd priodol, caniatâd datblygu a chymeradwyaeth achos busnes i fwrw ymlaen.

Mae crynodeb o’r dyraniadau cyllid ar draws y tair rhaglen yma, a’r prosiectau y maen nhw'n eu cwmpasu, i'w weld ar waelod y diweddariad yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth pwysig gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i ddatblygu a chyflawni gwaith lliniaru llifogydd mewn cymunedau lleol. Mae’r cyllid yn ategu ein buddsoddiad sylweddol yn y maes yma, wrth i ni fabwysiadu dull rhagweithiol o baratoi ar gyfer tywydd mwy eithafol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

“Bydd y dyraniad o dros £4.48 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, ar draws y rhaglenni ariannu yma, yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr ag arian cyfatebol gan y Cyngor i sicrhau buddsoddiad hyd yn oed yn fwy i gymunedau. Mae'r Cyngor wedi cynllunio ar gyfer ei gyfraniad ac wedi ei glustnodi yn Rhaglen Gyfalaf newydd y Priffyrdd a Thrafnidiaeth, y cytunwyd arni gan y Cabinet ym mis Mawrth.

“Bydd y rhaglenni allweddol yma'n ein helpu i symud ymlaen â 38 o gynlluniau wedi’u targedu sydd wedi’u nodi gan swyddogion. Bydd y cyllid yn talu am weithgarwch sy’n amrywio o gynnydd achosion busnes i waith dylunio ac adeiladu. Byddwn ni'n parhau i chwilio am gyfleoedd ariannu allanol pan fydd y rhain ar gael, i helpu ein hymdrech barhaus i amddiffyn seilwaith ac eiddo allweddol yn ein cymunedau.”

Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Mae’r rhaglen yma'n cyflawni gwaith cyfalaf i leihau’r perygl o lifogydd, ac mae’r 15 cynllun lleol canlynol wedi’u cymeradwyo mewn egwyddor yn 2024/25:

  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Afon Cynon/Stryd Wellington, Aberdâr (achos cyfiawnhad busnes).
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn, Tylorstown (dylunio manwl/achos busnes).
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Heol Cefnpennar, Cwm-bach (achos cyfiawnhad busnes).
  • Gwaith Cam Dau Cwmaman (adeiladu).
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Camlas Cwm-bach (achos busnes amlinellol strategol).
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Maes y Ffynnon (dylunio manwl/achos busnes).
  • Gwaith Cam Dau Nant Gwawr (dylunio manwl/achos busnes).
  • Teras Maes-y-deri, Cilfynydd  (achos busnes amlinellol).
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Stryd y Gwirfoddolwr, Pentre (dylunio manwl/achos busnes).
  • Cam Dau Tirfounder/Ffordd Bro Teg (adeiladu).
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Trehafod (achos busnes amlinellol).
  • Cam Dau Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci (dylunio manwl/achos busnes).
  • Heol Turberville, Porth (dylunio manwl/achos busnes).
  • Cilfach Pen-rhys (adeiladu).
  • Stryd y Buddugwr, Aberpennar (adeiladu).

Rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach

Mae'r rhaglen yma'n golygu bod modd defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau lliniaru llifogydd llai, a allai fod â buddion ehangach hefyd. Nodir cyfanswm o 13 o gynlluniau yn 2024/25, ynghyd â gwaith gosod telemetreg. Dyma nhw:

  • Stryd y Nant, Aberaman (adeiladu).
  • Heol Llanwynno, Penrhiwceiber/Aberpennar (dylunio).
  • Dan-y-Cribyn, Ynys-y-bwl (dylunio).
  • Heol Brynmair, Cwmaman(dylunio).
  • Maes Brenin Siôr, Cwm Clydach (dylunio).
  • Teras Dôl-y-rhosyn, Llwynypia(dylunio).
  • Nant Elái, Cilfynydd(dylunio).
  • Stryd Fawr, Ynys-y-bwl(dylunio).
  • Teras y Waun, Ynys-hir (adeiladu).
  • Heol y Blanhigfa, Abercynon (dylunio ac adeiladu).
  • Stryd y Nant, Blaenrhondda (adeiladu).
  • Stryd y Golofn, Treorci (dylunio ac adeiladu).
  • Tynywaun/Tynewydd, Treherbert (adeiladu).

Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth

Mae’r rhaglen yma'n targedu gwelliannau draenio â blaenoriaeth ar ardaloedd o rwydwaith y ffyrdd sydd â hanes o lifogydd – mae naw cynllun wedi’u nodi ar gyfer 2024/25:

  • Heol Sant Luc, Llwyncelyn (dylunio).
  • Stryd y Felin, Tonyrefail (dylunio).
  • Heol Ynys-hir, Ynys-hir (dylunio).
  • Heol y Cymer, Porth (dylunio ac adeiladu).
  • Heol Turberville, Porth (adeiladu).
  • Yr A4058 yn agos at Gyffordd Heol Tŷ-mawr (dylunio ac adeiladu).
  • Yr A4059 Heol Newydd, Aberpennar (dylunio ac adeiladu).
  • Yr A4058 yn Ninas (dylunio).
  • Yr A4061 Ffordd y Rhigos (dylunio ac adeiladu).
Wedi ei bostio ar 03/05/24