O 1 Ebrill 2019, bydd ymgeiswyr yn talu ffi'r drwydded mewn dwy ran:
Rhan 1 – bydd y rhan yma'n cynnwys y costau rhesymol o weinyddu'r cais am drwydded a gwneud penderfyniad am y cais
Rhan 2 – bydd y rhan yma'n daladwy ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo a bydd yn cynnwys yr holl gostau rhesymol er mwyn i'r Cyngor barhau i gynnal gweithdrefnau rheoleiddio a gorfodi.
Ffi'r Drwydded HMO - talu mewn dwy ran |
Rhan 1 - Ffi cyflwyno cais
|
Cais Newydd / Adnewyddu'n Hwyr
|
Adnewyddu trwydded bresennol (cyflwyno cais cyn i'r drwydded bresennol ddod i ben
|
|
£625
|
£594
|
Rhan 2 - Ffi sy'n daladwy ar adeg cyhoeddi'r grant (mae'r ffi yma'n seiliedig ar bris fesul uned ar gyfer llety sydd wedi'i feddiannu gan un aelwyd)
|
Tŷ Amlfeddiannaeth sydd ddim yn cydymffurfio, ac sydd ddim wedi cydymffurfio o fewn 8 wythnos i'r arolygiad cychwynnol o'r cais am drwydded.
|
Tŷ Amlfeddiannaeth sy'n cydymffurfio'n llawn ar adeg yr arolygiad cychwynnol; neu sydd wedi cydymffurfio'n llawn o fewn cyfnod o 8 wythnos o'r archwiliad cychwynnol o'r cais am drwydded
|
|
£179
|
£147
|
Am ragor o wybodaeth am ffioedd, bwriwch olwg ar ein Polisi Ffioedd Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth