Skip to main content

Trwydded anifeiliaid gwyllt neu egsotig

Mae materion cadw rhai rhywogaethau o anifeiliaid gwyllt yn cael eu rheoli gan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976. Fydd dim modd i neb gadw anifail gwyllt peryglus heb gael trwydded gan ei Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Mae rhestr o'r anifeiliaid mae rhaid cael trwydded ar eu cyfer, cyn bod hawl gan unigolyn eu cadw, yng Ngorchymyn Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (Addasiad) 1984.

Cyflwyno cais

Bydd rhaid cyflwyno cais am drwydded i'r Awdurdod Lleol. Bydd modd rhoi trwydded os fydd yr ymgeisydd ddim wedi'i wahardd neu wedi'i ddedfrydu'n euog o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.

I gael ffurflen gais, cysylltwch â ni:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái

Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301

Bydd angen talu ffi wrth gyflwyno'r cais.

Ar hyn o bryd, mae'r ffi yn £368.00 ar gyfer trwydded ddwy flynedd.

Yn ogystal, bydd gofyn i'r ymgeisydd dalu costau arolygiadau gan filfeddyg sydd wedi'i awdurdodi gan y Cyngor.

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, bydd rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cais fod yn berchen ar yr anifail ac yn ei gadw, neu'n bwriadu gwneud hynny.

Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais

Os byddwch chi'n cyflwyno cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn cadarnhad unwaith ein bod ni wedi derbyn y taliad yn llwyddiannus. Byddwch chi, wedyn, yn derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.

Os byddwch chi'n anfon cais i'r Adran Trwyddedu, byddwch chi, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, yn derbyn llythyr o gadarnhad bod eich cais yn cael ei brosesu, ynghyd â derbynneb. 

Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn derbynneb ar unwaith ac, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, byddwch chi'n derbyn llythyr sy'n cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu.

Cwyno/gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am y cais trwyddedu neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Dyletswyddau'r Cyngor

Cyn rhoi trwydded, bydd rhaid i'r Arolygydd Trwyddedu fod yn fodlon ar y canlynol:

  • Fydd rhoi'r drwydded ddim yn peri trafferthion i'r cyhoedd o ran diogelwch, niwsans neu reswm arall.
  • Bydd yr ymgeisydd yn berson addas i feddu ar drwydded i gadw'r anifeiliaid sydd wedi'u nodi ar y cais.
  • Bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety sy'n eu hatal nhw rhag dianc ac sy'n addas o ran ei wneuthuriad, maint, tymheredd, draenio a glendid.
  • Bydd digon o fwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu ar gyfer yr anifeiliaid; a bydd rhywun yn ymweld â'r anifeiliaid ar adegau addas.
  • Bydd camau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch yr anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall.
  • Bydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i rwystro ymlediad clefydau heintus.
  • Bydd llety'r anifeiliaid yn addas iddyn nhw allu ymarfer eu cyrff yn ddigonol.
  • Pan fydd y Cyngor yn rhoi trwydded, bydd y drwydded honno'n destun unrhyw amodau bydd y Cyngor yn penderfynu eu gosod arni ac ym mhob achos bydd yr amodau hyn yn nodi'r canlynol:

a. Dim ond y person a enwir ar y drwydded fydd â hawl i gadw’r anifail.

b. Dim ond ar y safle a enwir ar y drwydded y bydd yr anifail yn cael ei gadw.

c. Fydd yr anifail ddim yn cael ei symud neu, os bydd rhaid ei symud, bydd yn cael ei symud yn unol â'r amodau penodol a nodir yn y drwydded.

d. Bydd rhaid i ddeiliad y drwydded feddu ar bolisi yswiriant cyfredol, wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor, sy'n cwmpasu atebolrwydd dros unrhyw ddifrod fydd wedi'i achosi gan yr anifail.

e. Fydd hawl cadw dim ond y rhywogaeth a enwir ar y drwydded a nifer yr anifeiliaid a nodir ar y drwydded.

f. Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau y bydd copi o'r drwydded, a'i chynnwys, ar gael i unrhyw berson arall a enwir ar y drwydded yn berson sy'n gallu edrych ar ôl yr anifail.

  • Bydd modd i'r Cyngor, ar unrhyw adeg, ddiddymu neu ddiwygio unrhyw un o amodau'r drwydded, ar wahân i'r rheini sydd wedi'u cwmpasu gan 8a i 8f uchod.

Eich hawl i apelio

Os bydd unigolyn yn anfodlon ar gais am drwydded sydd wedi ei wrthod, neu'n anfodlon ar unrhyw un o'r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, bydd hawl ganddo apelio i Lys yr Ynadon. Bydd modd i'r Llys roi cyfarwyddyd ynghylch y drwydded neu'r amodau, fel y gwêl yn briodol.

Troseddau a chosbau

Bydd unrhyw un a geir yn euog o gadw anifail sydd wedi'i gynnwys yn Neddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 heb drwydded, neu unrhyw un a geir yn euog o fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod o'r drwydded, yn agored i ddirwy o hyd at £2,000.

  • Bydd unrhyw un a geir yn euog o beri oedi i Arolygydd neu filfeddyg awdurdodedig, neu'i rwystro, yn agored i ddirwy o hyd at £2,000.
  • Os bydd rhywun yn cadw anifail heb drwydded, neu os bydd rhywun yn methu â chydymffurfio ag amod o'r drwydded, bydd modd i Arolygwyr y Cyngor atafaelu'r anifail a naill ai ei gadw, neu ei ddifa neu gael gwared arno (ei roi i sŵ neu i leoliad arall) heb orfod talu iawndal i'r perchennog.
  • Os bydd y Cyngor yn mynd i unrhyw gost am atafaelu, cadw neu gael gwared ar anifail, bydd y person oedd yn geidwad yr anifail yn agored i dalu'r costau hynny.

Rhagor o wybodaeth

Mae copïau o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, a deddfwriaeth arall sy'n cael ei grybwyll yn yr wybodaeth yma, ar gael i'w prynu gan Lyfrfa Ei Mawrhydi.

Mae modd gweld copi o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 yn swyddfeydd y Cyngor. Mae modd i chi hefyd gael ffurflenni cais, a rhagor o gymorth neu gyngor.