Skip to main content

Casgliadau Gwastraff Gwyrdd Masnachol

Mae gwastraff gwyrdd cwsmeriaid gwastraff masnach (gan gynnwys Mannau Addoli ac Ysgolion) yn cael ei gasglu mewn bagiau ailgylchu masnachol.

ARCHEBWCH FAGIAU GWASTRAFF MASNACHOL YMA

Mae Casgliadau Gwastraff Gwyrdd Yn Newid

O 1Tachwedd 2021, bydd gwastraff gwyrdd masnachol yn cael ei gasglu mewn sachau gwyrdd y gellir eu hailddefnyddio.  Bydd angen i gwsmeriaid gwastraff masnachol gofrestru eu busnes i sicrhau bod eu casgliadau gwyrdd yn parhau.  Bydd cwsmeriaid yn derbyn dau sach AM DDIM wrth gofrestru.  Mae modd prynu sachau ychwanegol petai angen.

MANYLION LLAWN AM GASGLIADAU GWASTRAFF GWYRDD

Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Gwyrdd

Rhwng mis Tachwedd a chanol mis Mawrth, byddwn ni'n defnyddio system archebu i gasglu gwastraff gwyrdd. Os yw'r busnes eisoes wedi'i gofrestru ac angen trefnu casgliad gwastraff gwyrdd yn ystod y gaeaf, e-bostiwch ailgylchu@rctcbc.gov.uk