Skip to main content

Angen rhagor o fagiau sbwriel ac ailgylchu byd masnach?

workplace-recycling-Web-Banner
Alert
Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024 

O 8 Ebrill 2024, bydd y Cyngor yn newid defnydd y bag glas yn unol â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024.  O 8 Ebrill 2024, bydd angen gosod yr eitemau canlynol naill ai mewn bag glas neu fag coch y Cyngor:

Bag Glas - Papur swyddfa, papurau newydd, cylchgronau, cardbord tenau, bocsys grawnfwyd, post sothach, amlenni.

Bag Coch (yn wag ac wedi'u rinsio) - Poteli plastig, cwpanau plastig, caniau diod, tuniau bwyd, potiau iogwrt, pecynnau brechdanau plastig, cartonau diodydd cwyraidd, ffoil glân.

Yn y cyfamser, mae modd parhau i ddefnyddio'r bag glas yn ôl yr arfer, ond dyma gynghori cwsmeriaid i fod yn effro i'r newidiadau cyn archebu symiau mawr o fagiau glas.

Prynwch fagiau ailgylchu a sbwriel byd masnach.

Ar-lein

  • llwyth swmpus o fagiau ailgylchu byd masnach glas (25 bag) - £0.35 ynghyd â thâl dosbarthu £8.60 (nid oes modd ad-dalu hyn)
  • llwyth swmpus o fagiau sbwriel byd masnach brown (25 bag) - £2.25 ynghyd â thâl dosbarthu £8.60 (nid oes modd ad-dalu hyn)
  • bagiau ailgylchu bwyd byd masnach (25 bag) - £8.75 ynghyd â thâl dosbarthu £8.60 (nid oes modd ad-dalu hyn)
  • sachau gwastraff gwyrdd mae modd eu hailddefnyddio (o 1 Tachwedd 2021) - dwy sach wrth gofrestru a £3.00 y sach wedi hynny

Gofyn i fagiau gael eu hanfon i'ch busnes

Mewn Llyfrgelloedd Lleol

Mae modd prynu bagiau gwastraff ac ailgylchu masnach yn llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf hefyd. Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch Llyfrgell leol

  • bagiau ailgylchu masnach glas mewn swmp - £0.35 yr un
  • bagiau gwastraff masnach brown - £2.25 yr un
  • bagiau ailgylchu bwyd masnach - £8.75 am rolyn o 25
  • does dim modd casglu sachau gwastraff gwyrdd o lyfrgelloedd. Archebwch y rhain ar-lein os gwelwch yn dda.