Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Garfan lechyd Meddwl yn y gymuned

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned.  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Carfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned.  Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i oedolion (18 oed neu'n hŷn) sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth. Mae modd i ni ddarparu cymorth ychwanegol i'r hyn y gall y gwasanaeth gofal sylfaenol ei gynnig. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Mae tair carfan sy'n gweithio yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon ac ardal Taf-Elái.  Mae'r carfanau yn cynnwys gweithwyr amrywiol - seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a chynhalwyr.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i):

  • enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost.
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt aelodau o'r teulu a ffrindiau a all fod yn rhan o'ch cefnogi chi.
  • enw, cyfeiriad, manylion cyswllt eich meddyg teulu.
  • manylion am eich anghenion iechyd meddwl a sut y dylid diwallu'r rhain.
  • manylion canlyniadau unrhyw asesiadau sydd wedi'u cynnal.
  • manylion am unrhyw anawsterau y gallech chi, eich teulu, neu ein staff fod wedi'u cael wrth ddiwallu'ch anghenion.

Er mwyn sicrhau ein bod yn deall eich holl anghenion, mae'n bosibl bydd raid i ni ofyn i chi, eich teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill am wybodaeth bersonol a sensitif iawn am eich:

  • iechyd meddwl.
  • gofynion o ran meddyginiaeth.
  • diddordebau cymdeithasol, anghenion crefyddol a diwylliannol (os yw'n addas).
  • cartref, a sut mae'ch cartref yn diwallu'ch anghenion.
  • rôl y teulu a sut maen nhw'n eich cefnogi chi.

3.  O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n derbyn atgyfeiriadau gan amrywiaeth o ffynonellau, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Atgyfeiriadau gan garfan Un Pwynt Mynediad y Cyngor
  • Iechyd
  • Yr Heddlu
  • Hunan atgyfeiriad
  • Clinig Asesu
  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys Gwasanaethau i Blant

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Ar ôl i ni dderbyn eich manylion, bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i gynnal asesiad.

Pwrpas yr asesiad yw sefydlu pa gymorth y mae modd i ni ei roi ar waith i'ch helpu chi.

Yn dilyn yr asesiad, byddwn ni'n cadw cofnod o'r cymorth sydd i'w roi ar waith ar eich cyfer chi yn rhan o’ch cynllun gofal. Bydd hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan eich Gweithiwr Cymdeithasol, i benderfynu a yw'r cymorth rydych chi'n ei dderbyn yn dal i fod yn berthnasol neu a oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau.

Mae'r holl asesiadau, cynlluniau gofal ac adolygiadau yn cael eu cofnodi'n electronig ar ein cronfa ddata o'r enw System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS).

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1.(c),(e) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983     
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2.(g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983     
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Erthygl 9 2.(h) - Cefnogi darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sylwch, er bod modd i ni ofyn am eich caniatâd (o dan gyfraith gyffredin Dyletswydd Cyfrinachedd a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill sy'n ymwneud â'ch cymorth, dyw caniatâd ddim yn sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth o dan y gyfraith diogelu data. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Bydd yr wybodaeth rydych chi ac eraill yn ei rhannu â ni yn cael ei chofnodi yn eich asesiad a'ch cynllun.

Bydd peth o'r wybodaeth yma yn cael ei rhannu gyda'r staff a allai fod angen cynnal asesiad pellach neu ddarparu cefnogaeth i chi.

Mae rhannu'r wybodaeth yn eich asesiad yn lleihau'r angen i chi ddarparu'r un wybodaeth dro ar ôl tro i'r staff neu'r asiantaethau sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch cymorth. Dyw hyn ddim yn golygu y byddwn yn rhannu popeth rydych chi ac eraill wedi'i rannu gyda ni. Byddwn ni ond yn rhannu'r wybodaeth sy'n hanfodol er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill y Cyngor neu sefydliadau allanol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Cymuned a Phlant. Mae modd i hyn gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Darparwr Gofal
  • Iechyd
  • Yr Heddlu
  • Unrhyw berson neu sefydliad a all helpu i'ch cefnogi, er enghraifft, yr adran tai.

7.  Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Mae cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion yn cael eu cadw at ddibenion gweinyddol am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. 

Mae cofnodion am anghenion iechyd unigolyn yn cael eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'w gysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi ac Amserlen Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar Wybodaeth y Cyngor

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

  • Drwy e-bostio: gwasanaethaucymdeithasol@rctcbc.gov.uk
  • Drwy ffonio: 01443 425527
  • Drwy anfon llythyr at: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY