Privacy Notice | Description |
Adborth Corfforaethol |
Mae'r adran Adborth Corfforaethol yn ymateb i gwynion, canmoliaeth a sylwadau. |
Addysg i Oedolion |
Mae Gwasanaeth Addysg i Oedolion RhCT yn darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu i Oedolion o fewn yr awdurdod. |
Adran Adfywio, Cynllunio a Materion Tai |
Mae'r Gwasanaeth Adfywio, Cynllunio a Materion Tai yn gweithio gyda phartneriaid strategol er mwyn sicrhau, er enghraifft, bod twf rhanbarthol yn cael ei gyflawni, bod fframweithiau polisi cynllunio lleol priodol yn cael eu datblygu a bod cynlluniau adfywio yn cael eu cyflwyno. |
Adran Eiddo Corfforaethol |
Mae'r gwasanaeth Eiddo Corfforaethol yn darparu gwasanaethau rheoli asedau cynhwysfawr i'r Cyngor. |
Adran Priffyrdd a Gofal y Strydoedd |
Mae'r Adran Priffyrdd a Gofal y Strydoedd yn darparu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer Strategaeth a Chynnal y Priffyrdd, Rheoli Sbwriel, Gwastraff a chynnal cerbydau'r Cyngor. |
Adran Treth y Cyngor |
A ninnau'n Awdurdod Bilio ar gyfer Treth y Cyngor, rydyn ni'n cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, rydyn ni'n ei defnyddio i weinyddu a chasglu Treth y Cyngor. |
Ansawdd a Hyfforddiant Arlwyo |
Mae Carfan Ansawdd a Hyfforddiant Arlwyo'r Cyngor yn darparu hyfforddiant statudol i staff y Gwasanaethau Arlwyo. |
Ardrethi Annomestig |
Mae'r gwasanaeth yn cadw gwybodaeth am drigolion y gorffennol a'r presennol sy'n agored i dalu Ardrethi Annomestig yn y Fwrdeistref Sirol. |
Arlwyo am Ofynion Dietegol Arbennig |
Nod Gwasanaethau Arlwyo'r Cyngor yw gwella bwyd a maeth yn ein hysgolion i gryfhau iechyd a lles y disgyblion a chodi safonau dysgu a chyrhaeddiad ar gyfer ein disgyblion. Fel rhan o'r gwasanaeth yma rydyn ni'n darparu ar gyfer disgyblion â gofynion dietegol arbennig. |
Atyniadau i Ymwelwyr a'r Gwasanaeth Treftadaeth |
Mae'r adran Atyniadau i Ymwelwyr a'r Gwasanaeth Treftadaeth yn gyfrifol am reoli'r prif atyniadau i ymwelwyr yn RhCT. |
Buddion Staff |
Caiff cynlluniau Buddion Staff RhCT eu gweinyddu gan Garfan Datblygu'r Gweithlu sy'n rhan o Adran Adnoddau Dynol. Mae modd i holl staff RhCT fanteisio ar becyn buddion yn rhan o'u contractau cyflogaeth.
|
Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg (BDCTM)
|
Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys asiantaethau allweddol yr ardal sy'n darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.
|
Cadw'n Iach yn y Gwaith
|
Nod rhaglen Cadw'n Iach yn y Gwaith yw cefnogi iechyd a lles staff sy'n cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf
|
Caffael |
Mae'r Gwasanaeth Caffael yn gyfrifol am strategaeth a pholisi caffael, effeithlonrwydd caffael, arloesedd a gwelliant.
|
Camddefnyddio Sylweddau
|
Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer cynllunio a chomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn ardal Cwm Taf. Mae'r gwasanaethau yma yn cael eu hariannu gan grant Llywodraeth Cymru.
|
Cam-drin yn y Cartref |
Siop un stop (y Ganolfan Oasis) ar gyfer unigolion sy'n dioddef Gam-drin Domestig. |
Carfan Gofal a Chymorth Tymor Byr RhCT (Gwasanaeth i Oedolion) |
Mae'r Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr wedi'i ddatblygu i gynnal asesiad a darparu offer neu gomisiynu gwasanaethau i ddiwallu'ch anghenion. |
Carfanau Olrhain Cysylltiadau Rhanbarthol
|
Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Olrhain Cysylltiadau yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
|
Cefnogi Pobl |
Yn darparu gwasanaeth cymorth ar faterion tai ar gyfer pobl sy'n agored i niwed. |
Ceisio Cartref RhCT |
Mae Ceisio Cartref RhCT yn gweinyddu'r Gofrestr Tai Gyffredin yn unol â Chynllun Dyrannu Tai Rhondda Cynon Taf 2015. |
Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol |
Mae'r Adran Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol yn casglu gwybodaeth personol i cofrestru chi er mwyn bleidleisio, ac i gweinyddu etholiadau. |
Covid-19 Hysbysiad Preifatrwydd - Ymweld ag Adeiladau'r Cyngor |
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n cynnwys gwybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Olrhain Cysylltiadau COVID-19 wrth ymweld ag adeilad neu sefydliad y Cyngor
|
Covid-19 - Hysbysiad Preifatrwydd Olrhain Cysylltiadau Rhanbarthol
|
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n cynnwys rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion y Cynllun Profi, Olrhain, Diogelu COVID-19. |
Covid-19 - Hysbysiad Preifatrwydd Cleifion a Warchodir
|
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n cynnwys rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth ar gyfer Cleifion a Warchodir o ganlyniad i COVID-19.
|
Covid-19 - Hysbysiad Preifatrwydd Darpariaeth Ôl-ofal ar gyfer Cleifion a Warchodir
|
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n cynnwys rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth chi at ddibenion Darpariaeth Ôl-ofal ar gyfer Cleifion a Warchodir. |
Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol Covid-19
|
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol Covid-19. |
Credydwr (Taliadau) |
Rydyn ni, yn Adran Taliadau'r Cyngor, yn casglu a chadw gwybodaeth benodol. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i brosesu a gweinyddu taliadau i gyflenwyr. |
Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop |
Cyllid Cymdeithasol Ewropeaidd a dderbyniwyd i redeg prosiectau penodol. |
Cydraddoldeb ac Amrywioldeb |
Darparu gwybodaeth ar fonitro ac adrodd ar faterion cydraddoldeb er mwyn helpu'r cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. |
Cyflawni Gofal Plant
|
Mae'r Garfan Cyflawni Gofal Plant yn goruchwylio safon lleoliadau gofal plant ar gyfer lleoliadau sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor a lleoliadau sydd wedi'u comisiynu (allanol).
|
Cymoedd Tasglu'r |
Mae'r Garfan Cartrefi Gwag yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol o fewn Tasglu'r Cymoedd i gyflwyno ceisiadau grant cartrefi gwag. |
Cymorth i Lywodraethwyr - Cwynion mewn Ysgolion |
Prif nod y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yw sicrhau bod cyrff llywodraethu yn rhedeg ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn briodol. |
Cymorth i Lywodraethwyr - Pennu Cyllideb Ysgolion |
Prif nod y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yw sicrhau bod cyrff llywodraethu yn rhedeg ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn briodol. |
Cymraeg |
Darparu Gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pob adran o'r Cyngor er mwyn sicrhau ein bod ni'n diwallu ein rhwymedigaethau o ran y Gymraeg. |
Cyngor ar Faterion Tai a Digartrefedd |
Mae'r Gwasanaeth Cyngor ar faterion Tai yn darparu cyngor yn ymwneud â thai er mwyn ceisio atal digartrefedd. |
Chynllun Ailsefydlu yn y DU |
Mae'r cynlluniau yma'n cefnogi'r ffoaduriaid trwy ddarparu Tai, Addysg, Iechyd ac Integreiddio i'r gymuned. |
Cynllun Cymorth Benthyciadau Ceir |
Mae'r gwasanaeth yn cadw gwybodaeth am fenthyciadau wedi'u cynorthwyo ar gyfer gweithwyr i brynu ceir. |
Cynllun Divert 18-25 |
Mae'r cynllun yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 18 a 25 oed yn ardal Cwm Taf sydd wedi cyflawni troseddau lefel isel. |
Cynllun Pensiwn |
Y gwasanaeth Cynllun Pensiwn yw'r awdurdod gweinyddol ar gyfer ei aelodau a buddiolwyr Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. |
Cynllunio ar gyfer argyfyngau |
Mae cynllunio ar gyfer argyfyngau yn rhan o gylch o weithgareddau. Bydd y gweithgareddau yma yn dechrau gyda sefydlu proffil risg fydd yn helpu i bennu'r blaenoriaethau o ran datblygu cynlluniau, a bydd yn gorffen gydag adolygiad. |
Cynnig Gofal Plant Cymru
|
Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido 30 awr o Addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant ar hyd a lled Cymru i deuluoedd sydd â phlant 3 a 4 oed am 48 wythnos o'r flwyddyn. Mae Rhondda Cynon Taf yn gweinyddu'r cynllun yma ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
|
Datblygu’r Gymuned
|
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.
|
Derbyn disgyblion |
Mae Gwasanaeth Derbyn Disgyblion y Cyngor yn gweinyddu'r broses sy'n cefnogi rhieni wrth wneud cais am leoedd ysgol i'w plant. |
Diogelu (Hwb Diogelu Amlasiantaeth) |
Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf yw'r un man cyswllt ar gyfer gweithiwr proffesiynol a'r cyhoedd sydd am adrodd pryderon diogelu. |
Diogelwch y Cyhoedd |
Mae'r Gwasanaeth Diogelwch y Cyhoedd yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o swyddogaethau rheoleiddio a statudol ar ran y Cyngor. |
Diogelwch y Ffyrdd |
Mae'r Uned Diogelwch y Ffyrdd yn darparu ystod amrywiol o addysg a hyfforddiant diogelwch y ffyrdd. |
Dyledion Amrywiol |
Mae gan y Cyngor garfan ganolog sy'n gyfrifol am gasglu dyledion ar ran y Cyngor. |
Ffotograffiaeth a Fideograffeg |
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pryd y gellir cymryd delweddau / fideos o'r fath, sut y gellir defnyddio'r delweddau / fideos a'n sail gyfreithlon ar gyfer cymryd a defnyddio'r delweddau. |
Fostercwmtaf |
Mae Fostercwmtaf yn garfan recriwtio rhieni maeth sy'n rheoli pob ymholiad sy'n gysylltiedig â maethu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
|
Garfan Anableddau Dysgu Cymhleth |
Mae’r hysbysiad prefatwrydd yma yn esbonia sut mae’r Garfan Anableddau Dysgu Cymhleth yn prosesi eich gwybodaeth personol.
|
Garfan Arbenigol Ymyriadau Dementia |
Mae'r gwasanaeth yma yn gweithio gyda'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i darparu ymateb amgen i feddyginiaeth ar gyfer ymddygiad heriol, a mynd ati i archwilio'r rhesymau posibl pam fod unigolyn mewn trallod neu'n ymddwyn mewn ffordd a allai fod yn heriol i staff a theuluoedd. |
Garfan lechyd Meddwl yn y gymuned |
Mae’r hysbysiad prefatwrydd yma yn esbonia sut mae’r Garfan Iechyd Meddwl yn y gymuned yn prosesi eich gwybodaeth personol.
|
Gofal a Chymorth |
Mae'r gwasanaeth yn gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed ac oedolion sydd ag anghenion cymhleth. |
Gorff Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) |
Mae Rhondda Cynon Taf yn Gorff Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) sy'n gyfrifol am sicrhau bod hawliau dynol oedolion heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ynghylch ble maen nhw'n byw a sut maen nhw'n derbyn eu gofal a'u cefnogaeth ac sy'n byw neu'n symud i fyw mewn cartrefi gofal cofrestredig yn cael eu gwarchod yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
|
Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned RhCT |
Mae'r Gwasanaeth Addasu ac Offer y Gymuned wedi'i ddatblygu i gynnal asesiadau a darparu offer/addasiadau neu gomisiynu offer a/neu wasanaethau ataliol neu gymunedol priodol. |
Gwasanaeth Monitro Llinell Bywyd |
Gwasanaeth Monitro Llinell Bywyd 24 awr y Cyngor. |
Gostyngiad Treth y Cyngor |
Fel Cyngor, rydyn ni'n gweinyddu cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor i helpu pobl sydd ar incwm isel gyda Threth y Cyngor. |
Gwasanaeth 14-19 Oed |
Mae Gwasanaeth 14 -19 Oed y Cyngor yn wasanaeth mewnol sy'n cefnogi Ysgolion a'r Cyngor wrth wella canlyniadau cyflawniad ysgolion ar gyfer blynyddoedd ysgol 9-13. |
Gwasanaeth Cerdd |
Mae Gwasanaeth Cerdd y Cyngor yn rhoi cyfleoedd ym maes cerddoriaeth i bobl ifainc ar draws RhCT. |
Gwasanaeth Cofrestru |
Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun er mwyn cofrestru achlysur. |
Gwasanaeth y Crwner |
Crwner yw deiliad swydd farnwrol annibynnol sydd wedi'i benodi gan gyngor lleol. Mae crwneriaid yn ymchwilio i farwolaethau sydd wedi cael eu dwyn i'w sylw. |
Gwasanaeth Gofal Preswyl (Oedolion) |
Mae'r Gwasanaethau Gofal Preswyl yn darparu llety a chymorth i oedolion sydd efallai'n ei chael hi'n anodd edrych ar ôl eu hunain gartref. |
Gwasanaeth i Gwsmeriaid |
Y Gwasanaethau i Gwsmeriaid yw 'Drws Ffrynt' y Cyngor, sy'n cynnwys Canolfan Gyswllt 24/7, gwasanaethau Wyneb yn Wyneb a gwasanaethau ar-lein. |
Gwasanaeth Marchnata a Newyddion |
Mae'r Cyngor yn prosesu data personol at ddibenion y gwasanaethau marchnata a newyddion. |
Gwasanaeth Profedigaethau |
Mae'r Gwasanaethau Profedigaethau yn darparu gwasanaethau claddu ac amlosgi ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn 14 o fynwentydd a 2 amlosgfa. |
Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned |
Mae Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor yn cynorthwyo oedolion i fyw yn eu cartrefi eu hunain trwy ddarparu pryd bwyd o ansawdd a sicrhau bod gan gleientiaid gyswllt bob dydd gydag eraill. |
Gwasanaeth Synhwyraidd RhCT (Gwasanaethau i Oedolion) |
Mae'r Gwasanaeth Synhwyraidd (Gwasanaethau i Oedolion) wedi'i ddatblygu i gynnal asesiad a darparu offer, adsefydlu neu gomisiynu gwasanaethau ataliol neu gymunedol priodol. |
Gwasanaeth Trafnidiaeth |
Mae'r Gwasanaeth Trafnidiaeth yn darparu ystod o wasanaethau rheng flaen a chymorth ar gyfer trafnidiaeth yn y gymuned. |
Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf |
Mae Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed sy'n mynd i drafferth gyda'r gyfraith. |
Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid |
Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn rhoi cymorth i bobl ifainc 11-25 oed i gyflawni eu potensial ac i oresgyn rhwystrau dysgu a dilyniant. |
Gwasanaethau Cyfreithiol |
Y garfan Gwasanaethau Cyfreithiol yw prif ffynhonnell cyngor cyfreithiol y Cyngor. O fewn y garfan, mae yna 4 is-adran arbenigol; Gofal Plant, Ymgyfreitha, Cynllunio ac Eiddo. |
Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant |
Mae'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant yn darparu ystod eang o wasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol ar gyfer oedolion, plant, pobl ifainc a theuluoedd. |
Gwasanaethau Hamdden |
Mae Gwasanaethau Hamdden RhCT yn gweithredu nifer o gyfleusterau hamdden o fewn RhCT. Rydyn ni'n darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a ffitrwydd i drigolion ac ymwelwyr RhCT. |
Gwasanaethau Parcio |
Mae'r Gwasanaeth Parcio'n prosesu dirwyon parcio ac yn cyhoeddi trwyddedau parcio i drigolion. |
Gwasanaethau'r Celfyddydau |
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n sôn am sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol chi at ddibenion gweithgareddau ymgysylltu â'r celfyddydau sy'n cael eu cynnal gan Wasanaethau Celfyddydau'r Cyngor. |
Gweinyddiaeth y Gweithlu |
Yn darparu gwybodaeth os ydych chi'n rhan o weithlu'r Cyngor sy'n cynnwys gweithwyr cyflogedig a di-dâl, gan gynnwys gwirfoddolwyr. |
Hyfforddiant Cyflawni Gofal Plant
|
Mae'r Garfan Cyflawni Gofal Plant yn goruchwylio safon lleoliadau gofal plant ar gyfer lleoliadau a reolir gan y Cyngor a lleoliadau sydd wedi'u comisiynu (allanol).
|
Hyfforddiant Hen Felin |
Mae Hyfforddiant Hen Felin yn darparu addysg yn seiliedig ar waith i bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd dros 16 oed ac wedi gadael yr ysgol. |
Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cynnal a Chadw offer sy’n cael ei ddarparu gan Gwmni Vision Products |
Sut rydyn ni’n ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cynnal a Chadw offer sy’n cael ei ddarparu gan Gwmni Vision Products. |
Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Carfan Datblygu Chwarae |
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Chwarae. |
Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y carfan Datblygu Chwarae – Hyfforddi Staff Darparwyr Chwarae |
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Chwarae - – Hyfforddi Staff Darparwyr Chwarae. |
Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Carfan Integredig Cymorth i Deuluoedd a Charfan Teuluoedd Therapiwtig Meisgyn
|
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Carfan Integredig Cymorth i Deuluoedd a Charfan Teuluoedd Therapiwtig Meisgyn. |
Hysbysiad preifatrwydd – Cynhalwyr Ifanc |
Mae’r hysbysiad preifatrywdd yma yn esbonio syt rydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion cynnal Cynhalwyr Ifainc.
|
Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cynal Y Cynhalwyr |
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynllun Cynnal y Cynhalwyr |
Hysbysiad Preifatrwydd y Garfan Achlysuron |
Y Garfan Achlysuron RhCT sy'n arwain achlysuron corfforaethol, ond mae gwasanaethau eraill y Cyngor hefyd yn trefnu a chynnal achlysuron. |
Hysbysiad Preifatwrydd Diogelu Plant |
Mae’r hysbysiad preifatwrydd yma yn esbonio sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelu Plant.
|
Hysbysiad Preifatrwydd Olrhain Cysylltiadau Rhanbarthol
|
Ffyrdd allweddol o sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio at ddibenion olrhain cysylltiadau yn ardal Cwm Taf Morgannwg. |
Iechyd a Diogelwch |
Darparu gwybodaeth ar Iechyd a Diogelwch ar gyfer gweithwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n defnyddio gwasanaethau a safleoedd y Cyngor |
Iechyd a Lles
|
Bwriad y Garfan Iechyd a Lles yw hyrwyddo a gwella iechyd a lles trigolion RhCT |
Llwybrau Cyflogaeth |
Rhaglen wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n cydweithio â chyflogwyr i wella sgiliau cyflogadwyedd. |
Llyfrgelloedd |
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus ar gyfer y sawl sy'n byw, gweithio neu'n astudio yn RhCT. |
Morgeisi |
Mae'r gwasanaeth yn cynnal gwybodaeth am forgeisi a benthyciadau a wnaed yn y gorffennol i unigolion i'w helpu i brynu neu wneud gwaith gwella i'w cartrefi. |
Mynediad a Chynhwysiant |
Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynwysiant yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu sy'n ddysgwyr sy'n agored i niwed, ac yn rhoi cymorth iddyn nhw. |
Mynychu'r Ysgol a Lles |
Mae Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles y Cyngor yn cefnogi plant, pobl ifainc a'u teuluoedd sy'n dioddef problemau neu anawsterau sy'n effeithio ar allu'r plentyn i fynychu'r ysgol neu gymryd rhan mewn dysgu. |
Parciau a Chefn Gwlad |
Prif gyfrifoldebau'r adran Parciau a Chefn Gwlad yw cynnal y mannau agored cyhoeddus a'r cyfleusterau cysylltiedig yn ogystal â chydlynu defnydd y cyfleusterau chwaraeon awyr agored gan glybiau chwaraeon a defnyddwyr hamdden. |
Penodi Llywodraethwyr Ysgol y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr
|
Prif nod y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yw sicrhau bod cyrff llywodraethu yn rhedeg ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn briodol. |
Profiad Gwaith a Swyddi Preswyl |
Mae'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn ymrwymo i wella cyfleoedd gyrfa a gwaith ar gyfer pobl ifainc sydd mewn gofal ac sydd wedi gadael gofal, yn ogystal â'r rheini sy'n ddiwaith ac sydd ddim mewn byd addysg, gwaith na hyfforddiant, yn ogystal â chynnig lleoliadau gwaith o fewn Cyngor Rhondda Cynon Taf i fyfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd. |
Prosesu Deisebau |
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu deisebau sydd wedi'u llenwi a'u cyflwyno i'r Cyngor gan aelodau o'r cyhoedd, ac aelodau etholedig ar ran etholwyr. |
Prydau Ysgol am Ddim |
Mae'r gwasanaeth yn darparu Prydau Ysgol am Ddim er mwyn cynorthwyo pobl sydd ar incwm isel. |
Recordio a Chyhoeddi Cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau
|
Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Recordio a Chyhoeddi Cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau.
|
Recriwtio |
Darparu gwybodaeth os ydych chi'n ceisio am swydd gyda'r Cyngor. |
Rhaglen Gofal i Waith a Rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir |
Mae'r Rhaglen Gofal i Waith a Rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir yn cael eu darparu gan y Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant |
Rhaglenni Cyflogaeth |
Rhaglenni wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogaeth. |
Rheoli Ynni |
Mae'r Garfan Ynni'n gyfrifol am holl faterion rheoli ynni, gan gynnwys caffael, strategaeth, polisi, effeithlonrwydd. |
Rhestr o Gleifion a Warchodir yn Rhondda Cynon Taf
|
Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar Rhestr o Gleifion a Warchodir yn Rhondda Cynon Taf
|
Rhyddid Gwybodaeth |
Darparu gwybodaeth ar geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. |
Sgiliau Allweddol |
Mae Sgiliau Allweddol yn darparu cyrsiau gan diwtoriaid addysg i oedolion mewn lleoliadau mewn cymunedau ledled RhCT. |
Strategaeth Hamdden |
Mae Chwaraeon RhCT a'r Gwasanaethau Datblygu Iechyd yn galluogi ac yn darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a gweithgaredd corfforol. |
Taliadau (i'r Cyngor) |
Yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd y mae'r wybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu wrth wneud taliadau i'r Cyngor. |
Teledu Cylch Cyfyng |
Mae'r gwasanaeth yma'n rheoli'r wyliadwriaeth Teledu Cylch Cyfyng ledled Rhondda Cynon Taf. |
Teledu Cylch Cyfyng Mewn Sefydliadau Ledled Rhondda Cynon Taf |
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut mae’r Cyngor yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion teledu cylch cyfyng mewn sefydliadau ledled Rhondda Cynon Taf.
|
Trwyddedau Plant |
Mae'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles yn cynorthwyo plant/pobl ifainc a'u teuluoedd/gwarchodwyr/cwmniau cynhyrchu a chyflogwyr sy'n dymuno cyflwyno cais am Drwydded Perfformio i Blant, Trwydded Cyflogi Plentyn neu Drwydded Gwarchodwyr. |
Twristiaeth |
Swyddogaeth Adran Dwristiaeth RhCT yw marchnata a chodi proffil Rhondda Cynon Taf fel lleoliad deniadol i ymwelwyr. |
Uned Gorfodi Gofal y Strydoedd |
Mae'r garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd yn darparu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer rheoli sbwriel a chŵn sy'n baeddu. Caiff camerâu sy'n cael eu gwisgo ar y corff eu defnyddio i gymryd lluniau o droseddwyr gwastraff. |
Un Pwynt Mynediad RhCT (Gwasanaethau i Oedolion) |
Mae'r Un Pwynt Mynediad (Gwasanaethau i Oedolion) wedi'i ddatblygu i gynnal asesiad cymesur trwy gael sgwrs "Beth sy'n Bwysig". |
Vision Products PVCus
|
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonia sut mae’ch gwybodaeth personol yn gael eu prosesi pan yn yn cynhyrchu, cyflenwi a gosod cynhyrchion PVCu.
|
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol |
Mae carfan Ymddygiad Gwrthgymeithasol yn mynd i'r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, tramgwyddwyr ac ardaloedd lle mae problemau, ac mae'n rhoi cymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. |
Ymgynghori |
Mae'r gwasanaeth ymgynghori yn casglu barn preswylwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a staff trwy ddefnyddio sawl dull. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn helpu hysbysu penderfyniadau'r Cabinet ac Uwch Swyddogion sy'n effeithio ar gynllunio, darparu a'r gyllideb. |
Yr Adran Budd-dal Tai |
Mae'r Adran Budd-dal Tai yn gweinyddu'r Cynllun Budd-dal Tai ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. |
Yr Uned Iechyd Galwedigaethol |
Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles yn canolbwyntio ar lesiant corfforol a meddyliol gweithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf yn y gweithle. |
Yswiriant |
Y Garfan Gwasanaethau Yswiriant yw prif ffynhonnell cyngor ar Yswiriant i'r Cyngor, ei Gabinet, ei Bwyllgorau, ei Aelodau Etholedig, ei Adrannau a'i Swyddogion. |