Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Cymorth Rhianta

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Rhianta?

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cymorth Rhianta. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor (insert link).

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Garfan Rhianta'n darparu cefnogaeth a chyngor i rieni o ddydd i ddydd yn ogystal â delio â materion penodol drwy raglenni rhianta, sesiynau galw heibio a chymorth un wrth un.  

Bydd grwpiau'n cael eu cynnal dros 8 i 12 wythnos ac maen nhw ar gael ar gyfer plant o bob oedran. Yn ystod y sesiynau yma, bydd datblygiad eich plentyn yn cael ei archwilio a'i drafod, gan ddilyn pynciau penodol. 

Mae'r sesiynau galw heibio'n cael eu darparu er mwyn bod modd i rieni ddod i weithdai unigol fydd yn trafod nifer o bynciau sy'n ymwneud â rhianta. 

Mae modd cynnig gwasanaeth un wrth un i rieni na all fynychu rhaglen neu i rieni sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol cyn iddyn nhw fynychu rhaglen.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am y rheine a'r plant ry'n ni'n eu cefnogi.  Bydd y mathau o wybodaeth ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

Gwybodaeth am y plentyn/plant

  • Enwau
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Iechyd
  • Ysgol
  • Rhywedd

Gwybodaeth am y rhieni

  • Enwau
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Iechyd
  • Cyllid
  • Statws perthynas y rhieni
  • Rhywedd
  • Tras Ethnig
  • Cyflogaeth

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r holl wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi a'ch plentyn/plant yn dod o'r ffurflen gyfeirio y byddech chi wedi'i llenwi gyda'r Garfan Teuluoedd Cydnerth.  Efallai y bydd yn rhaid i chi ddarparu rhagor o wybodaeth i ni er mwyn i ni gynnal asesiad bellach.

Byddwn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth gan Ymwelydd Iechyd eich plentyn chi.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth er mwyn rhoi'r cynllun i'r teulu, rydych chi wedi'i drafod â'r Garfan Teuluoedd Cydnerth, ar waith.   

Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch chi, byddwn ni’n eich cyfeirio at sefydliad arall a byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth ag e er mwyn iddo barhau i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. 

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig. 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd cyfreithiol i ddarparu cefnogaeth i rieni yn unol â deddfwriaeth Dechrau'n Deg yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ydy, yn dibynnu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, er enghraifft; 

Adrannau mewnol y Cyngor (ar gyfer cefnogaeth barhaus)

Teuluoedd Cydnerth

Gweithwyr Cymdeithasol 

Ysgol eich plentyn/plant (er mwyn casglu gwybodaeth a chynnig cefnogaeth i'ch plentyn chi)

Staff addysgu 

Asiantaethau eraill y Llywodraeth (er mwyn casglu gwybodaeth a chynnig cefnogaeth lle mae ei hangen os oes yna unrhyw bryderon o ran diogelu plant)

Iechyd

Yr Heddlu 

Asiantaethau trydydd sector, fel elusennau ar gyfer teuluoedd (rhai fydd yn cynnig cefnogaeth barhaus i chi), fel;

Plant y Cymoedd

Grŵp Cymorth Ymddygiad Heriol

7. Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â'r ddeddfwriaeth a fydd hi ddim yn cael ei chadw am gyfnod yn hirach na'r angen neu'r rheswm y caiff ei chasglu'n wreiddiol. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: 

Drwy e-bostio: RhiantaaChymorthiDeuluoedd@rctcbc.gov.uk 

Drwy ffonio: 01443 281437 

Drwy anfon llythyr: Tŷ Trevithick