Skip to main content

Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) pan mae'n ystyried gwneud newidiadau sylweddol i bolisïau neu wasanaethau. Mae angen Asesiad hefyd wrth wneud penderfyniadau sydd, o bosibl, yn cael effeithiau anghymesur ar unigolion neu grwpiau sydd wedi'u hamddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Beth yw Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb?

Dull yw'r EIA sydd o gymorth i ni sicrhau bod ein polisïau, ein harferion a’n penderfyniadau ni’n deg ac yn diwallu anghenion staff ac aelodau o'r cyhoedd.

Pam ydyn ni'n gwneud Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb?

Fel Awdurdod Lleol, mae'n ofynnol ein bod ni'n cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn golygu bod rhaid gwneud dadansoddiad cydraddoldeb o'n gwasanaethau ac unrhyw gynnig am newid. Rhaid i ni sicrhau bod pob un o'n polisïau, gwasanaethau a swyddogaethau cyfredol, a'r rhai arfaethedig, yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion grwpiau amrywiol er mwyn:

•           cael gwared â gwahaniaethu

•           hybu cyfle cyfartal a mynediad; a

•           meithrin perthnasoedd da rhwng grwpiau gwahanol yn y gymuned

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd wedi'i chynnwys o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus, fel y Cyngor, i roi sylw dyledus i nifer o faterion sydd angen eu hystyried o ran cydraddoldeb wrth weithredu'u dyletswyddau. Dylai'r Cyngor gynnal Asesiad cyn rhoi polisi ar waith, gyda'r amcan o nodi'r effaith bosib gall hyn ei chael ar faterion cydraddoldeb. Ffordd o hwyluso a dangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ydy'r EIA.

Mae modd dod o hyd i ddogfennau Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb trwy ddilyn y dolenni isod.

Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch chi ynglŷn â'r broses, os oes cwestiynau gyda chi, neu os hoffech chi gopi o'r dogfennau mewn fformat / iaith amgen, e-bostiwch y garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 444529.