Skip to main content

Cyngor Balch

Mae awdurdodau lleol yn Ne Cymru yn cydweithio'n wirfoddol yn rhan o'r cynllun Cynghorau Balch er mwyn hyrwyddo a gwella'r cymorth sydd ar gael i staff *LHDTCRhA+ gan sicrhau bod sector llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd gweledol ym maes hawliau pobl LHDTCRhA+ ac yn dathlu cynhwysiant y gymuned LHDTCRhA+ yn ein cymunedau. Cafodd Cynghorau Balch ei sefydlu yn 2015.
Proud-council-festival
Proud-council-festival-1

Proud council established

Rydyn ni'n cefnogi nifer o achlysuron LHDTCRhA+trwy gydol y flwyddyn. Eleni rydyn ni wedi cerdded â balchder yng ngŵyl Pride Cymru gydag Aelodau o'r Cabinet, Arweinwyr, Meiri a chynrychiolwyr staff o bob Cyngor sy’n rhan o’r rhwydwaith. 

Mae Cynghorau Balch hefyd yn cynnal ac yn mynychu achlysuron, gan gydweithio i gynnal boreau coffi, hyfforddiant a gweminariau yn ogystal ag ysgrifennu erthyglau sy'n codi ymwybyddiaeth ac sy'n cael eu rhannu â staff ym mhob awdurdod lleol sy'n rhan o'r cynllun er mwyn meithrin gweithle cynhwysol.

Os hoffech chi ddilyn yr hyn mae Cynghorau Balch yn ei wneud, mae modd dod o hyd i'n cyfrifon ar Threads ac Instagram ar @proudcouncils. 

* Lesbiaidd / Hoyw / Deurywiol / Trawsryweddol / Cwiar neu Gwestiynu / Rhyngryw / Anrhywiol / mae '+' yn cynrychioli pob hunaniaeth arall sydd ddim yn rhan o'r acronym byr.