Skip to main content

Y Maer

Mae'r Cynghorydd Emma Watts wedi cael ei hethol yn Faer newydd Rhondda Cynon Taf wedi iddi gael ei phenodi yn 31ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ddydd Mercher 29 Ebrill 2026.

Meddai'r Cynghorydd Watts, Aelod Etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dros Ward Ystrad, a gafodd ei hethol yn 2022, ei bod hi'n anrhydedd cynrychioli'r Fwrdeistref Sirol yn Faer.

Mae'r Cynghorydd Watts wedi enwi ei mab, Carter Dunning, a'i merch, Ellie Butler, yn gymheiriaid yn ystod ei blwyddyn yn y rôl.

Meddai'r Cynghorydd Emma Watts, Maer Rhondda Cynon Taf:

Emma Watts, Mayor

 

“Rydw i'n hynod falch o gael fy ethol yn Faer Rhondda Cynon Taf ac mae'n fraint fawr.

“Mae Ystrad yn golygu llawer i mi. Rydw i wedi byw yn Ystrad, Gelli ers i mi gael fy ngeni, ac mae fy theulu wedi galw'r gymuned yma'n gartref ers dros 100 mlynedd. Roeddwn i'n ffodus iawn o gael plentyndod gwych gyda theulu cariadus a chefnogol, ac roedd fy rhieni wedi helpu i siapio'r person yr ydw i heddiw.

“Rydw i hefyd yn teimlo'n falch iawn o gerdded yn ôl traed fy nhad, a oedd hefyd yn Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol, ac a gafodd ei ethol yn Faer Rhondda Cynon Taf 10 mlynedd yn ôl i heddiw. Rydw i'n cofio gweld cymaint yr oedd wedi mwynhau ei gyfnod yn Faer, y bobl y cafodd gyfle i gwrdd â nhw a'r balchder o ysgwyddo rôl mor bwysig.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl o gymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, gan glywed am eu cyflawniadau a gweld yn uniongyrchol y cymorth gwych y mae cynifer o bobl yn ei roi i sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn lle arbennig”.

Dyma elusennau'r Maer:
  • Friends of Y Bwthyn
  • Valley Veterans
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (RhCT)

Cafodd y Cynghorydd Gaynor Warren, Aelod Etholedig dros Ward Pentre'r Eglwys, ei phenodi'n Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

Gwneud rhodd ar-lein i Apêl Elusennau'r Maer.

Sut i gysylltu â'r Maer

Hoffech chi wahodd y Maer i achlysur neu hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â swyddogaeth y Maer? Croeso ichi gysylltu â Swyddfa'r Maer:

Swyddfa'r Maer   
2 Llys Cadwyn

Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Tudalennau Perthnasol