Skip to main content

Pwyllgorau Craffu

Caiff pob gweithgaredd craffu Cyngor Rhondda Cynon Taf ei reoli gan y Pwyllgor, a hynny drwy gynllun gwaith unigol. Caiff gwaith penodol ei wneud drwy'r Pwyllgor a thrwy baneli anffurfiol wedi'u sefydlu, neu drwy weithgorau.

Dyma'r Pwyllgorau Craffu;

  • Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2022-2027 – Mae'r Pwyllgor yma'n cydlynu gwaith y pedwar Pwyllgor Craffu ac mae'n gyfrifol am gymeradwyo'r Rhaglenni Gwaith sy'n cael eu datblygu gan y tri Phwyllgor Craffu thematig. Mae hyn yn sicrhau bod y rhaglenni gwaith yn gydgysylltiedig a'u bod nhw'n canolbwyntio ar ddeilliannau, yn ogystal â sicrhau bod modd eu cyflawni. Os bydd materion sy'n dod o dan gylch gwaith mwy nag un o'r Pwyllgorau Craffu, bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2022-2027 yn penderfynu pa Bwyllgor fydd yn gyfrifol am eu hadolygu. Mae'r pwyllgor hefyd yn gyfrifol am alw ceisiadau i mewn. Mae modd gweld y cylch gorchwyl yma.
  • Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant – Bydd y Pwyllgor yma'n gyfrifol am graffu ar y gwaith o Gynnal Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor a'r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor, gan gynnwys Gwastraff a Phriffyrdd. Bydd y Pwyllgor yn trafod materion sy'n berthnasol i'r Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy. Yn fwy penodol bydd y Pwyllgor yma'n gyfrifol am graffu ar sut mae'r Cyngor yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac yn lleihau ei ôl troed Carbon. Bydd hefyd yn trafod meysydd sy'n cyfrannu at ffyniant megis Datblygiad Economaidd, Adfywio a Thwristiaeth. Mae modd gweld y cylch gorchwyl yma.
  • Gwasanaethau Cymuned - Mae'r Pwyllgor yma'n gyfrifol am ganolbwyntio ar wasanaethau’r Cyngor sy'n cefnogi Iechyd a Lles ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd a thrafod ffactorau sy'n cyfrannu at y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i gefnogi pobl hŷn. Mae'r Pwyllgor yn trafod gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ogystal â'r holl ffactorau eraill sy'n cyfrannu at Iechyd a Lles y Fwrdeistref Sirol, megis Gwasanaethau Hamdden a Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd.  Yn rhan o'i gylch gwaith, ochr yn ochr â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol, bydd yn trafod cyfrifoldebau'r Cyngor ac yntau'n Rhiant Corfforaethol, gan gynnwys cyfrifoldebau Plant sy'n Derbyn Gofal. Yn ogystal â hyn, dyma Bwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn dynodedig y Cyngor (o dan Adrannau 19 a 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder, 2006). Mae modd gweld y cylch gorchwyl yma.
  • Addysg a Chynhwysiant - Mae'r Pwyllgor yma'n gyfrifol am ganolbwyntio ar Addysg ac Ysgolion. Mae'n gyfrifol am graffu ar ddarpariaeth Addysg rhwng 3-19 oed a holl wasanaethau eraill y Cyngor y mae pobl ifainc yn ymgysylltu â nhw yn ein cymunedau.  Mae'r Pwyllgor hefyd yn craffu ar waith Consortiwm Canolbarth y De sydd wedi cyflawni agweddau ar wasanaethau gwella ysgolion. Mae'r Consortiwm wedi'i gomisiynu gan bum awdurdod lleol (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf) er mwyn darparu gwasanaeth gwella ysgolion sy'n herio, monitro ac yn cefnogi ysgolion i wella safonau. Mae'r Pwyllgor yma'n craffu ar gydymffurfiad y Cyngor â Safonau'r Gymraeg a darpariaeth Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Yn unol â'r gyfraith a chanllawiau gan Lywodraeth Cymru, mae Aelodaeth y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â’r hawl i bleidleisio o gredoau crefyddol a rhiant-lywodraethwyr. Mae modd gweld y cylch gorchwyl yma.