Fis diwethaf, roeddwn i ac Aelodau'r Cabinet wedi cytuno i fuddsoddi dros £23.6miliwn yn ein rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth yn rhan o raglen gyfalaf 2018/19 gwerth £180miliwn. 

Mae'r Cyngor wedi nodi diogelu'r priffyrdd a Strwythurau ar gyfer y dyfodol yn faes blaenoriaeth allweddol. Ar ben y £23.6miliwn a fydd yn cael ei wario eleni, mae'r Cyngor wedi gwario dros £91.4miliwn er mwyn gwella a thrwsio Rhwydweithiau'r Priffyrdd a Thrafnidiaeth dros y saith blynedd diwethaf, sef cyfanswm o £115miliwn mewn llai na degawd. 

Rydw i'n siwr y bydd preswylwyr yn falch iawn o glywed am y buddsoddiad sylweddol yma, a fydd yn gweld 180 o gynlluniau unigol yn cael eu cyflawni, yn enwedig ar ôl y difrod sydd wedi cael ei wneud i'n ffyrdd yn sgil y tywydd gwael yn ddiweddar.

Mae buddsoddi er mwyn gwella rhwydwaith y priffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, ac rydyn ni'n parhau i weithio trwy'r 7% o ffyrdd sydd angen sylw ar frys.

Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn sawl maes arall hefyd yn ystod y flwyddyn ariannol yma, gan gynnwys mannau chwarae.  Mae dros £2.3miliwn wedi cael ei fuddsoddi er mwyn gwella cyflwr mannau chwarae ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd y buddsoddiad diweddaraf yn golygu y bydd dros 100 o gyfleusterau yn elwa o'n cyllid erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  Mae hyn hefyd yn golygu bod hanner y gwaith adnewyddu mannau chwarae yng Nghymru wedi cael ei gynnal yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn dyst i'r ffaith ein bod ni'n gweithredu er mwyn gwireddu'n uchelgeisiau, fel bod gan blant y Fwrdeistref fynediad i offer chwarae o ansawdd da.

Eleni, byddwn ni hefyd yn dyrannu £700,000 er mwyn gwella parciau a mannau gwyrdd. Bydd y cyllid yma'n ein galluogi ni i fynd i'r afael â'r llwyth gwaith gwaith cynnal a chadw sy'n aros i'w wneudar lwybrau troed, ffensys, rheiliau, gatiau a systemau draenio.  Rydyn ni'n ymrwymo i greu Bwrdeistref Sirol sy'n mwynhau ffordd o fyw iachus a heini ac rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn parciau a chaeau chwarae er mwyn gwneud cynnydd o ran gwireddu'r uchelgais yma.

Bydd y buddsoddiad yn ein galluogi ni i ddechrau gwella cyflwr ein caeau chwarae yn y dyfodol er budd clybiau chwaraeon lleol a'n cymunedau. Bydd y gwaith yma'n ychwanegu at y gwaith rydyn ni wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gosod cyfleusterau caeau 3G modern yn y Fwrdeistref Sirol.  Rydyn ni wedi darparu 9 cyfleuster o'r fath yma hyd yn hyn. Bydd cwblhau'r rhaglen waith yma dros y 12 mis nesaf yn golygu bod pob preswyliwr yn byw o fewn 3 milltir o gae 3G sydd ar gael i'r gymuned.

Er gwaetha'r hinsawdd economaidd hynnod heriol, rydyn ni'n parhau i fuddsoddi'n strategol er mwyn gwella ac adnewyddu asedau amrywiol y gymuned.

Wedi ei bostio ar 04/04/2018