Yn gynharach yr wythnos yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £85 miliwn i'w wario ar feysydd sy'n cynnwys isadeiledd, trafnidiaeth gyhoeddus ac ysgolion ledled Cymru. Bydd cyfran Rhondda Cynon Taf o’r cyllid yma yn ein cefnogi ni i barhau i gyflawni’n lleol yn y meysydd y mae trigolion Rhondda Cynon Taf yn ystyried yw'r rhai pwysicaf. Mae'r meysydd yma'n weladwy ac yn gwneud gwahaniaeth i bawb o ddydd i ddydd.

Yn y mis diwethaf, cymeradwyodd y Cyngor gyllid ychwanegol, gwerth £5.8 miliwn, i gefnogi cynlluniau'r Cabinet i gynorthwyo i gyflwyno prosiectau allweddol ledled y Sir. Rydw i eisoes wedi cyfeirio at y pwysigrwydd strategol o ddeuoli'r A4119 ar gyfer Cwm Rhondda a Thonyrefail. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r tagfeydd sy'n cael eu hachosi rhwng Tonyrefail ac Ynysmaerdy. Yn ei dro, mae hyn yn achosi tagfeydd cyn belled â Threwiliam, gan effeithio ar gymudo a llif traffig cyffredinol i fusnesau a thrigolion. Bydd yr arian sydd ar gael (£1 miliwn) yn cefnogi'r cynllun yma i symud i'r cam datblygu nesaf yn dilyn gwaith daear rhagarweiniol yn ystod y misoedd diwethaf. Am yr un rhesymau, mae cwblhau'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar wedi bod yn flaenoriaeth. Mae'r cynnydd hyd yn hyn yn golygu bod y prosiect priffyrdd pwysig yma bron wedi'i gwblhau. Hyd yn hyn, mae £15 miliwn wedi'i fuddsoddi yn y prosiect yma.

Mae hefyd yn bwysig sôn am ymrwymiad y Cyngor i Deithio Llesol. Mae'r Cyngor wedi cael ei fap rhwydwaith integredig o'r prosiectau sydd i'w cyflawni yn y 15 mlynedd nesaf wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd gan bob un o'n cynlluniau priffyrdd mawr, megis deuoli'r A4119 a'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar lwybrau beicio pwrpasol oddi ar y ffordd.

Bydd y pecyn cyllido ehangach o £5.8 miliwn hefyd yn cefnogi gwaith ymchwilio pellach i liniaru tagfeydd traffig yn ardal Sgwâr Stag yn Nhreorci. Yn ogystal, mae dros hanner miliwn o bunnoedd wedi'i glustnodi i fynd i'r afael â thagfeydd ar gyfnodau teithio brig a gwella diogelwch ar y ffyrdd mewn mannau strategol ar draws y Sir.

Mae'r cyllid sydd wedi'i gymeradwyo yn cynnwys £1 miliwn ar gyfer Gofal Ychwanegol. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio opsiynau llety a chwrdd â dyheadau a gofynion cenedlaethau hŷn yn y dyfodol. Mae'r rhaglen Gofal Ychwanegol yn cynnwys darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf yn Aberaman, Pontypridd, y Porth, Aberpennar a Threorci - mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill ar gyfer dau o'r prosiectau yma.

Bydd £1 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi er mwyn paratoi'r strwythurau sydd ar ein priffyrdd ar gyfer y dyfodol. Yn aml, does neb yn sylwi ar y buddsoddiad na'r gwelliannau yma, ond maen nhw'n hanfodol bwysig er mwyn cynnal a chadw ffyrdd cerbydau, pontydd, waliau cynnal a cheuffosydd. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio tua 1,500 o'r strwythurau yma ar draws Rhondda Cynon Taf.

Bydd dyraniad o £1 miliwn ar gyfer cynllun Parc Eco sydd i'w adeiladu yng Nghyfleuster Rheoli Gwastraff Bryn Pica yn Llwydcoed hefyd yn rhan o'r cyllid yma. Mae hwn yn brosiect cyffrous a'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Pwrpas y prosiect yw helpu'r Cyngor i droi mwy o'n gwastraff ein hunain yn adnodd. Bydd y Parc Eco yn casglu ac yn ailddefnyddio deunyddiau gwastraff sy'n cael eu cynhyrchu ar y safle, gan gynnwys ynni gwres ac ynni trydanol. Mae'n ategu fy nghyhoeddiad sylweddol yr wythnos diwethaf, sef bod y Cyngor am ymdrechu i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae hyn yn ostyngiad o 20 mlynedd ar y targed a gafodd ei gyflwyno yn ddiweddar fel rhan o Gynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn fater byd-eang, ond yn un bydd rhaid i bob un ohonon ni chwarae ein rhan ynddo er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Rydyn ni wedi gosod targed uchelgeisiol, ond mae angen i ni fod yn uchelgeisiol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Rydw i'n credu bod dod â'r dyddiad targed ar gyfer bod yn garbon niwtral yn agosach yn gwneud yr angen am newid yn fwy perthnasol - nid yn unig i'r Cyngor fel sefydliad, ond hefyd i breswylwyr a chymunedau sydd â rôl allweddol i'w chwarae. Dyma un o'r rhesymau allweddol pam rydw i wedi ceisio cynrychiolaeth gymunedol ar gyfer y grŵp llywio newydd rydw i wedi'i sefydlu i gyflawni'r newid yma. Rydw i hefyd yn awyddus i sicrhau ein bod ni'n rhoi llais i bobl ifanc ar y mater yma, gan fod y mater yn bwysicaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwerth llywodraeth leol, i mi, yw'r gallu sydd ganddo i ddarparu gwahaniaeth ar lefel leol, yn yr ardaloedd sydd o bwys i drigolion ac i'r gwasanaethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd - o ysgolion i wasanaethau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden a pharciau.

Mae cyllid, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol yn ein gallu i wneud gwahaniaeth. I'r perwyl yma, bydd y Cyngor yn dechrau ymgynghori cyn bo hir ar ei strategaeth gyllideb ar gyfer 2020/21 - proses sydd bob amser yn dechrau wrth i'r Nadolig a'r gaeaf agosáu.
Wedi ei bostio ar 08/11/19