Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch i weld bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau Parc Coffa Ynysangharad yn un o'r tair cyrchfan Pyrth Darganfod ychwanegol ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sy'n ategu'r cyhoeddiad blaenorol a noedd yn cynnwys Parc Gwledig Cwm Dâr yn rhan o tranche cyntaf o chwe safle dynodedig.

Bydd y 9 safle sydd wedi'u nodi hyd yn hyn yn helpu cysylltu'r Cymoedd fel rhanbarth trwy ddefnyddio'r dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol unigryw i annog pobl i archwilio'r tirlun sy'n ein hamgylchynu.  Bydd hyn yn hyrwyddo twristiaeth ac annog trigolion y Cymoedd i fod yn fwy gweithgar.  Byddwn ni bellach yn cydweithio â chyd-gynghorau'r Cymoedd, Llywodraeth Cymru a gweithredwyr y safleoedd perthnasol i ddatblygu cynlluniau a fydd yn cael eu cefnogi gan £7 miliwn o arian cyfalaf dros y ddwy flynedd nesaf.

Rydyn ni eisoes yn gwybod y bydd twristiaeth yn chwarae mwy o ran yn ein Bwrdeistref Sirol yn ystod y blynyddoedd i ddod, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig i ni drwy ein hamgylchedd naturiol hardd yn ogystal â'n hatyniadau ymwelwyr allweddol.  Mae ein cefnogaeth tuag at ailagor Twneli Rhondda ac Aber-nant yn amlygu hynny, a'n bod ni'n cydnabod bod cwblhau'r ddau brosiect yma yn mynd i roi hwb enfawr i'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig o ran Teithio Llesol ym mhen gogleddol ein Bwrdeistref Sirol.

Yn ddiweddar, es i i Wobrau Cronfeydd yr UE 2018, lle enillodd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, y wobr ar gyfer y Prosiect Treftadaeth Ddiwylliannol Gorau yng Nghymru.  Dyma gyflawniad anhygoel, ac rydyn ni'n hynod falch o'r cynnydd sydd wedi digwydd ers ail-agor yr atyniad blaenllaw yn 2015. Ers hynny mae dros 266,000 o ymwelwyr wedi dod; a dros 91,000 o'r rheini yn ystod y tymor yma yn unig!

Mae llwyddiant Lido Ponty wedi bod yn ddiweddglo gwych i'r wythnos ar gyfer ein hatyniadau twristiaeth ar ôl i Daith Pyllau Glo Cymru ennill gwobr Leoliad Teuluol y flwyddyn yn ystod Gwobrau Lletygarwch Cymru, gan guro naw atyniad arall ledled Cymru.  Un o'n nodau ni eisoes yw sicrhau bod ymwelwyr yn gadael ein hatyniadau gydag argraff gadarnhaol, ac mae'n hyfryd gweld bod ymrwymiad a gwaith caled ein staff yn cael eu cydnabod.  Rydyn ni wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol i wella'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig o ran atyniadau'r Daith Pyllau Glo Cymru ac mae'r achlysuron sy'n digwydd yna drwy gydol y flwyddyn yn cynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Yn barod, mae Ogof Siôn Corn eleni wedi'i nodi fel yr un fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn, gyda dros 16,500 o ymwelwyr.

Unwaith eto, mae ein theatrau yn cynnal Pantomeim Nadolig blynyddol, a byddwn i'n annog unrhyw un sy'n chwilio am dipyn o hwyl yr ŵyl i archebu tocyn i weld perfformiad anhygoel o 'Jack and the Beanstalk' yn Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci.  Mae'r sioe eleni'n cynnwys wyneb cyfarwydd y byd panto, Maxwell James, yn ogystal â Jemima Nicholas a Lee Gilbert.  Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 03000 040 444 neu ewch i www.rct-theatres.co.uk am ragor o wybodaeth.

Hoffwn i hefyd gymryd cyfle i ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i holl staff y Cyngor ac i holl drigolion Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 18/12/2018