Mae blwyddyn newydd arnom ni, ac rydyn ni wedi dechrau meddwl am bennu Cyllideb ar gyfer 2018/19. Mae gyda ni gyfrifoldeb statudol, fel pob Awdurdod Lleol, i bennu cyllideb gyfreithiol gytbwys, a byddwn ni'n parhau i chwilio am ffyrdd arloesol i gyflawni hyn wrth ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen a chaniatáu buddsoddi strategol parhaus.

Mae cyfnod y Nadolig yn brysur yma yn Rhondda Cynon Taf, gyda llwyth o achlysuron yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol.  Cafodd achlysur Rasys Nos Galan, oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 59 oed eleni, ei gynnal ar Nos Galan yn Aberpennar. Roedd dros 10,000 o gefnogwyr a 1,700 o gystadleuwyr yn dathlu'r Flwyddyn Newydd yng nghanol y dref.  Mae'r achlysur wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r ffaith i ni ddenu cyn-chwaraewr rygbi dros Gymru a'r Llewod Colin Charvis a chyn-bencampwr byd bocsio Nathan Cleverly fel ein rhedwyr dirgel yn dystiolaeth o hyn.

Unwaith eto, roedd y Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 700 o bobl yn mwynhau'r sesiwn.  Mae'r Lido wedi bod yn gatalydd ar gyfer ardal Pontypridd, ac mae'n galonogol gweld cymaint o drigolion ac ymwelwyr yn manteisio ar y cyfleuster gwych yma trwy gydol y flwyddyn. Does dim amheuaeth bod gyda ni weledigaeth fentrus ac uchelgeisiol ar gyfer trawsffurfio Pontypridd, ac mae gwaith ailddatblygu'r hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf yn rhan hanfodol o'r weledigaeth. Er gwaethaf llawer yn meddwl y byddai hyn yn fenter aflwyddiannus arall, mae disgwyl i'r gwaith tir gychwyn yn gynnar ym mis Ionawr, ac rwy'n awyddus i weld rhagor o gynnydd yn cael ei wneud ar y prosiect sylweddol yma, fydd yn dod â manteision economaidd i Bontypridd a'r ardal ehangach.

Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i staff y Cyngor sydd wedi gweithio'n ddi-dor dros gyfnod y Nadolig.  Roedd cyfnod o dywydd garw eto yr wythnos ddiwethaf yn RhCT, ac mae ein criwiau wedi gweithio'n ddi-dor unwaith eto i sicrhau bod ein prif lwybrau ledled y Fwrdeistref ar agor ac yn ddiogel i deithwyr eu defnyddio. Hoffwn i hefyd roi diolch i'n trigolion yn RhCT am barhau i ailgylchu cymaint o wastraff ag y gallwn ni. Gyda'ch help a chefnogaeth, rydyn ni ymhlith y 10 Cyngor gorau o ran ailgylchu yng Nghymru, ac mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos i ni ailgylchu 64% o'n gwastraff yn ystod y flwyddyn 2016 – dyma ffigur sy'n uwch na chyfartaledd Cymru (63%) ac yn uwch na tharged presennol Llywodraeth Cymru (58%). Mae'r Nadolig yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar y sail gadarn yma a gweithio tuag at darged 2024/25 Llywodraeth Cymru sef 70% a rhagori ar garreg filltir arall yn gynt na'r disgwyl.

Unwaith eto, roeddwn i wrth fy modd pan welais i'r holl fwyd a dillad wedi'u rhoi gan Gynghorwyr a staff ar gyfer Apêl Adref eleni. Dyma'r ail flwyddyn i'r Cyngor gefnogi'r apêl, ac roeddwn i'n falch o weld cymaint o Aelodau Etholedig a staff y Cyngor yn ymateb i'r her. Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â digartrefedd, a byddwn ni'n parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid, megis Adref a Llamau, i gefnogi'r rheiny sydd angen help.

Hoffwn i orffen fy mlog diweddaraf trwy ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i'n holl drigolion.

Wedi ei bostio ar 03/01/18