Roedd yn anrhydedd i mi gael fy ethol eto fel Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar.  Er gwaethaf yr heriau o ganlyniad i galedi, rydyn ni wedi rheoli'n cyllid yn ofalus ac rwy'n credu'n gryf bod gennym ni gyfnodau cyffrous o'n blaenau. Byddwn ni'n gweld y lefelau uchaf erioed o fuddsoddi ym mhrosiectau ledled y Fwrdeistref Sirol dros y blynyddoedd i ddod.

Un maes rydyn ni wedi ceisio buddsoddi'n helaeth ynddo'n yw ein rhwydwaith trafnidiaeth. Bydd £23.6 miliwn yn cael ei wario ar y maes blaenoriaeth allweddol yma yn ystod 2018/19. Byddai hyn yn rhagori ar yr £20 miliwn a gafodd ei fuddsoddi dros y flwyddyn ariannol flaenorol.  Rydyn ni'n cydnabod bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn golygu mwy na dim ond yr heolydd, ac mae un o'r meysydd yma'n dod yn fwyfwy i'r amlwg, sef rhwydwaith Teithio Llesol y Fwrdeistref Sirol. Mae'r rhwydwaith yn gwneud mwy na dim ond hyrwyddo dull teithio mwy cynaliadwy - mae hefyd yn annog trigolion i fod yn fwy gweithgar ac i gadw'n heini.  Ail-agorodd y Llwybr Cymuned Llantrisant yn ddiweddar, ac mae'n enghraifft berffaith o'n buddsoddiad mewn Llwybrau (Beicio) i'r Gymuned sy'n ffurfio rhwydwaith ehangach o lwybrau ledled Rhondda Cynon Taf.  Mae'r adran newydd yn rhoi mynediad cyfleus i feicwyr i drefi Pont-y-clun, Tonysguboriau, Pentre'r Eglwys a Phontypridd, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau'r gwaith er mwyn cwblhau adran olaf y llwybr.

Yn ddiweddar, es i i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar Dwnnel y Rhondda, yng nghwmni Cymdeithas Twnnel y Rhondda. Roeddwn i'n llawn edmygedd i weld brwdfrydedd ac ymdrechion yr aelodau wrth ddatblygu'r prosiect yma.   Rwy'n parhau i gefnogi'r ymdrechion i ail-agor Twneli'r Rhondda ac Aber-nant. Rwy'n credu bod gan y ddau dwnnel botensial enfawr i hybu'r cyfleoedd Teithio Llesol a hamdden yn y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal ag ychwanegu at y rhestr gynyddol o atyniadau ymwelwyr sy'n darparu cyfleoedd twristiaeth hanfodol.

Rydyn ni'n ffodus iawn yn RhCT bod gennym ni atyniadau safon fyd-eang ar garreg ein drws, wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.  Mae yna rywbeth at ddant pawb yn Rhondda Cynon Taf, o Ddistyllfa Penderyn ar ymylon gogleddol Cwm Cynon i'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.  Gwelwyd miloedd o bobl yn heidio i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty , ac i'r ŵyl flynyddol yn Aberdâr dros benwythnos Gŵyl Banc y Sulgwyn lle daeth trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i fanteisio ar y penwythnos hir.   Un o'r atyniadau allweddol arall yw'r Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Bydd hyn ar agor ar ddyddiau Sul hefyd dros yr haf.  Rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth yn y Parc Treftadaeth dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella'r hyn sy'n cael ei gynnig, ac mae'r adborth ar gyfer yr arddangosfa newydd, 'DRAM: Y Profiad Sinematig', wedi bod yn gadarnhaol dros ben.

Wrth symud ymlaen, byddwn ni'n parhau i edrych am gyfleoedd i fuddsoddi yn ein cyfleusterau Teithio Llesol, twristiaeth a hamdden, er mwyn sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn Fwrdeistref Sirol sy'n ddeniadol ac yn fywiog er mwyn i bawb gael ei mwynhau.

Wedi ei bostio ar 04/06/2018