Skip to main content

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Care and support in wales banner
Mae gofal a chymorth yng Nghymru yn newid, o fis Ebrill bydd mwy o gyfle i chi gael dweud eich dweud am eich Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ddeddf newydd fydd yn rhoi cyfle i chi gael dweud eich dweud am y gofal a chymorth rydych chi'n eu cael.

Bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.

Dyma'r ddeddf newydd ar gyfer gwella lles pobl mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, a chynhalwyr mae angen cymorth arnyn nhw.

Cwestiynau cyffredin am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Lles

Mae lles yn rhan bwysig o'r ddeddf. Mae'n golygu bod pobl

  • yn iach
  • yn fodlon ar eu bywydau
  • yn ddiogel ac wedi'u diogelu
  • yn gallu dysgu pethau newydd

I oedolion, mae hefyd yn golygu eu bod

  • yn gallu rheoli eu bywydau
  • yn gallu gweithio

Ac o ran plant, mae'n golygu eu bod

  • yn gallu tyfu'n hapus
  • yn derbyn gofal da

Er mwyn diffinio'r hyn mae lles yn ei olygu i'r unigolyn a deall a ydy hyn yn cael ei gyflawni, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Datganiad Lles.

Byddwn ni'n mesur y deilliannau lles gan ddefnyddio Fframwaith Deilliannau Cenedlaethol

Bydd hyn yn galluogi dilyn cynnydd yn lleol ac yn genedlaethol tuag at drawsffurfio gwasanaethau gofal a chymorth. 

Beth ydy'r Ddeddf newydd yn ei olygu imi?

Mae'r Ddeddf yn newid y ffordd mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a'r ffordd mae gwasanaethau yn cael eu cynnal.  Bydd gan bobl fwy o gyfle i gael dweud eu dweud am y gofal a chymorth maen nhw'n eu cael.

Mae hefyd yn hyrwyddo'r ystod o gymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau'r angen am gymorth ffurfiol, wedi'i gynllunio.

  • Sicrhau bod gwasanaethau ar gael er mwyn rhoi'r cymorth iawn ar yr adeg iawn
  • Sicrhau bod rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael
  • Sicrhau bod asesiadau yn fwy syml ac yn gymesur
  • Sicrhau bod gan gynhalwyr hawl gyfartal i gael eu hasesu i gael cymorth
  • Sicrhau bod pwerau cryfach er mwyn diogelu pobl rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd proses asesu newydd ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn. Bydd yn ystyried cryfderau personol, cymorth gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Os ydych chi'n derbyn gofal neu gymorth, byddwch chi'n cymryd rhan yn y broses newydd yn ystod eich dyddiad adolygu nesaf. Bydd modd i'ch awdurdod lleol ddarparu rhagor o wybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

Ewch i wefan legislation.gov i ddarllen y fersiwn cyflawn o'r Ddeddf.

Fel arall, mae fersiynau hygyrch o'r Ddeddf newydd ar gael:

Mae'r fideo uchod 'Mae'r hyn sy'n bwysig i chi yn bwysig i ni hefyd' yn rhoi mewnwelediad defnyddiol o ran y Ddeddf, sut mae'n gweithio a sut bydd hi'n cael effaith arnoch chi.

Ffynonellau Defnyddiol Eraill

Mae gan Gyngor Gofal Cymru Hyb Gwybodaeth a Dysgu cynhwysfawr o'r enw Deall y Ddeddf ar gyfer y rheiny sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, iechyd a'r trydydd sector. 

Mae Canllawiau ar Fentrau Cymdeithasol yn adnodd Llywodraeth Cymru sydd â llwyth o wybodaeth ar gyfer y cyhoedd. 

Mae 'Being at the centre' yn llyfryn defnyddiol trydedd sector wedi'i lunio gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).  Mae'r WCVA hefyd wedi creu'r fideo yma 'Putting people at the Centre - the building blocks.'