Skip to main content

Baw Cŵn - Cwestiynau cyffredin

  • Oes unrhyw eithriadau i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd? (cŵn tywys, er enghraifft)

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys eithriadau ar gyfer pobl does dim modd disgwyl yn rhesymol iddyn nhw godi baw cŵn. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â chŵn tywys.

Mae'r eithriadau sydd wedi'u hamlinellu yn y Gorchymyn yn cynnwys pobl sydd wedi'u cofrestru yn ddall neu'n rhannol ddall neu sydd â nam ar eu golwg, a'r rheiny sydd ag anabledd sy'n golygu bod dim modd disgwyl iddyn nhw godi baw cŵn.

  • Ydy'r Cyngor yn rhoi bagiau baw cŵn?

Does dim rheidrwydd ar y Cyngor i ddarparu bagiau baw cŵn am ddim i drigolion.

Serch hynny, mae rhywfaint o fagiau baw cŵn ar gael mewn mannau penodol ledled y Fwrdeistref Sirol. Nod hyn yw annog pobl i fod yn gyfrifol a chodi baw eu cŵn.

Does dim modd archebu'r bagiau yma ar-lein.

Nodwch - Peidiwch â defnyddio bagiau gwastraff bwyd ar gyfer codi baw cŵn.

  • Fydd swyddogion awdurdodedig yn cynnal chwiliadau?

Os bydd swyddog awdurdodedig yn gofyn i rywun sy'n rheoli ci a oes modd gyda fe/hi i gael gwared â baw y ci (e.e. bagiau), a bod yr unigolyn yn anfodlon, neu ddim yn gallu dangos, bod modd iddo/iddi wneud hynny, yna mae'n rhesymol i'r swyddog awdurdodedig gredu bod trosedd wedi'i gyflawni.  Bydd hawl gan y swyddog i roi Hysbysiad Cosb Benodedig i'r unigolyn, am ei fod/ei bod hi wedi methu â bodloni'r gofyn o dan y Gorchymyn heb reswm digonol.

Does dim pwerau gyda'r Cyngor i chwilio pobl.

  • Pam nad yw'r Cyngor yn pennu mannau penodol mewn parciau ar gyfer cŵn?

Mae'r Cyngor wedi ymgynghori â'r cyhoedd a thrigolion ar y Gorchymyn newydd yn gynharach yn 2017.  Canlyniad yr ymgynghoriad oedd bod y Gorchymyn yn addas i dargedu perchnogion anghyfrifol, yn ogystal â chynnig cymorth i berchnogion cyfrifol yn nhermau rhoi gwybodaeth ynglŷn â ble cân nhw fynd am dro.

  • Fydd biniau baw cŵn yn cael eu gwacáu yn fwy rheolaidd?

Caiff y biniau eu gwacáu bob wythnos ar draws y Fwrdeistref Sirol, ac yn fwy rheolaidd na hynny yn y mannau hynny lle mae mynd â'r ci am dro yn boblogaidd.

  • Pam mae'r sylw ar gŵn yn hytrach nag ar geffylau?

Mae baw cŵn yn hyll ac anniben. Ar ben hynny, weithiau bydd ganddo oblygiadau difrifol ar gyfer iechyd plant ac oedolion. Gall hyn gynnwys tocsocariasis. Ar hyn o bryd does dim deddfau ar gyfer baw ceffylau. Er bod y Cyngor yn cydnabod bod modd i faw cathod fod yn wenwynig, bydd gorfodi rheolau ar berchnogion cathod yn amhosibl gan nad yw perchnogion cathod yn mynd â nhw am dro.

  • Fydd y rheolau newydd yn gweithredu yn y mannau sydd ddim o dan berchnogaeth y Cyngor?

Bydd.  Caiff y Gorchymyn mewn grym ym mhob man cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol, er bod rhai cyfyngiadau a gwaharddiadau yn berthnasol i fannau penodol, megis gwahardd cŵn o feysydd chwaraeon a mannau chwarae..

  • Oes cynlluniau ar y gweill i sefydlu parciau cŵn?

Nac oes, does dim cynlluniau i sefydlu parciau cŵn yn y Fwrdeistref Sirol.