Skip to main content

Ymgysylltu â Thrigolion 2018

Bydd y Cyngor allan yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf dros yr Haf i siarad â thrigolion am ystod o bynciau. 

Byddwn ni'n adrodd yn ôl ar ymgynghoriad y Gyllideb a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni, gan edrych ar ble mae buddsoddiadau'r gyllideb yn digwydd, yn ogystal â gofyn i chi sut brofiad yw byw yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwn ni hefyd yn recriwtio aelodau newydd i Banel y Dinasyddion. Dyma grŵp o drigolion rydyn ni'n cysylltu â nhw pan fydd angen i ni ymgynghori â thrigolion ar newidiadau i wasanaethau allweddol neu benderfyniadau'r Cyngor.

Mae'r achlysuron canlynol wedi'u cynllunio:

MEDI LLEOLIAD

7/9/2018

Llyfrgell Glynrhedynog – o 10am tan 12pm

13/9/2018

Llyfrgell Llantrisant – o 2pm tan 4pm

14/8/2018

Llyn Cwm Clydach 1pm - 3pm

21/8/2018

Llyfrgell Rhydfelen – o 10am tan 12pm