Skip to main content

Dydd Gwener Digidol

Os nad ydych chi wedi defnyddio'r rhyngrwyd o'r blaen, neu os hoffech chi gael cymorth i ddefnyddio eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn, dewch i sesiwn Dydd Gwener Digidol.  

Digital-Fridays-logoMae modd inni eich helpu chi i ddechrau arni, gan ddangos ichi sut i ddefnyddio pethau fel Skype a sut i gadw'n ddiogel ar-lein.  Pa bynnag gwestiwn sydd gennych chi, galwch heibio ac fe wnawn ni ein gorau glas i'ch helpu chi. 

Does dim rhaid i chi ddod â'ch cyfrifiadur eich hunain, bydd modd i chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron sydd ar gael i'w defnyddio am ddim yn y lleoliad Dydd Gwener Digidol.  Fodd bynnag, croeso i chi ddod â chyfrifiadur os oes un gennych chi.  Mae'n haws weithiau i ddysgu drwy ddefnyddio eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn eich hunain. Byddwn ni yn dangos i chi sut i gysylltu â'r WiFi sydd ar gael ym mhob lleoliad.

St Mairs Wifi - Cllr Forey - Press-3

Dod o hyd i'ch lleoliad Dydd Gwener Digidol

 

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnal sesiynau galw heibio, felly does dim rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw.  Bydd sesiynau bob dydd Gwener rhwng 10am a 12pm yn y lleoliadau canlynol:

Trefnu'ch sesiwn ddigidol

Mae sesiynau Dydd Gwener Digidol yn cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'n hanfodol trefnu lle o flaen llaw a gwneud apwyntiad.

Cysylltwch â ni heddiw i drefnu'ch apwyntiad gyda'r Garfan Cymunedau am Waith a Mwy

Digital Friday Trainig Slots

Llyfrgell Aberdâr

Ffôn: 01443 420962, E-bost: CFWcynon@rctcbc.gov.uk

Canolfan Cymuned Pennar, Aberpennar

Ffôn: 01443 420962, E-bost: CAWcynon@rctcbc.gov.uk

FLlyfrgell Glynrhedynog

Ffôn: 01443 570089,  E-bost: CAWDeRh@rctcbc.gov.uk

Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn

Ffôn: 01443 562204, E-bost: CAWTaf@rctcbc.gov.uk

Llyfrgell Porth

Ffôn: 01443 570089, E-bost: CAWDeRh@rctcbc.gov.uk

Llyfrgell Tonypandy

Ffôn: 01443 281486, E-bost: CAWGogRh@rctcbc.gov.uk

TLlyfrgell Treorci

Ffôn: 01443 281486, E-bost: CAWGogRh@rctcbc.gov.uk

Angen cymorth TG ychwanegol?

St Mairs Wifi - Cllr Forey - Press-4Os nad ydych chi wedi defnyddio cyfrifiadur neu lechen o'r blaen, peidiwch â phoeni.  Rydyn ni'n cynnal sesiynau penodol i roi dechrau arni.  Bydd angen i chi ddod am tua 4-6 wythnos wrth inni eich cynorthwyo drwy'r camau o ddechrau eich dyfais, sefydlu eich cyfrif e-bost cyntaf, a'ch helpu chi i bori'r we a theimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio technoleg.  Cysylltwch â ni neu dewch i sesiwn Dydd Gwener Digidol.

Oes angen sgiliau TG arnoch chi er mwyn i chi gael swydd?

Mae sgiliau TG yn hanfodol wrth chwilio am swydd.  Er mwyn i chi gael y cyfle gorau o gael swydd, bydd rhaid i chi feddu ar y sgiliau, p'un ai ydyn nhw'n sgiliau prosesu geiriau, taenlenni neu ddefnyddio'r rhyngrwyd.  Mae gennym ni gyrsiau i'ch helpu chi.  Bydd angen i chi fod yn barod i fynychu cwrs 4-6 wythnos. Bydd y cwrs yn eich dysgu chi, cam wrth gam, er mwyn rhoi hwb i'ch cyfleoedd o gael cyfweliad a chael swydd. 

Hyrwyddwyr Digidol

Rydyn ni'n awyddus i annog cymaint o bobl a phosib i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn RhCT.  Er mwyn inni lwyddo, bydd angen inni ddod o hyd i bobl sydd ag ychydig amser i helpu eraill. I gael rhagor o wybodaeth, a gweld sut i wneud cais, ewch i dudalen yr Hyrwyddwyr Digidol.

Partneriaeth Dydd Gwener Digidol

St-Mairs-Wifi-Cllr-Forey-Press-logoMae Dydd Gwener Digidol yn brosiect sydd wedi cael ei ddatblygu gan nifer o sefydliadau sydd yn aelod o'r bartneriaeth 'Get RCT Online' - Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cymunedau'n Gyntaf, Llyfrgelloedd RhCT, Cymunedau Digidol Cymru, Cymdeithas Tai Newydd , Cymdeithas Tai Rhondda, Cymdeithas Tai Hafod, Cymdeithas Tai Cynon Taf a Trivallis.

Eich Lleoliad WiFi Am Ddim Agosaf

Os hoffech chi gael mynediad at leoliad WiFi am ddim sy'n agos i chi, rhowch rif eich tŷ a'ch cyfeiriad post i weld rhestr o leoliadau.

 

Nodwch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau