Skip to main content

Bwrdd Cynllunio Materion Camddefnyddio Sylweddau Ardal Cwm Taf Morgannwg

 

Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy'n bryderus am sut maen nhw neu rywun arall yn defnyddio alcohol neu gyffuriau yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Mae'r amrywiaeth eang o gymorth arferol ar gyfer pobl o bob oed yn dal i fod ar gael dros y ffôn, ac mae modd cwrdd wyneb yn wyneb os oes angen.

Substance-Misuse-WELSHAr gyfer cymorth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, rhwng 9am a 5pm cysylltwch â:

DASPA

O ran materion Alcohol a Chyffuriau, DASPA yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n chwilio am gymorth neu gyngor ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ledled Cwm Taf.

Mae DASPA yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio defnyddwyr gwasanaeth, pobl ifanc, rhieni, aelodau o'r teulu ac eraill sy'n pryderu i'r gwasanaethau mwyaf priodol, gan sicrhau bod modd iddyn nhw gyrraedd y cymorth sydd ei angen yn hawdd ac yn gyflym.

Pe hoffech chi siarad â rhywun yn rhad ac am ddim, ac yn gyfrinachol, ffoniwch DASPA.
 Ffôn: 0300 333 0000

  • Cymorth y tu allan i oriau swyddfa:

Dan 24/7

Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, cynhalwyr, a'r rheiny sy'n weithwyr cymorth yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gafael ar wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.

Gwefan Cymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru www.dan247.org.uk

I gael cymorth y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch Dan 24/7 

Ffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun at DAN: 81066

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  www.barod.cymru , neu dilynwch Barod ar  facebook neu twitter i gael y newyddion diweddaraf a chyngor. 

 E-bostiwch y Garfan Comisiynu Materion Camddefnyddio Sylweddau:   CamddefnyddioSylweddau@rctcbc.gov.uk

  • Sylwch: Mae gweddill y wefan hon wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.