Skip to main content

Aelodau'r Cabinet yn penderfynu camu'n ôl o'u Rolau Gweithredol

Mae'r Cynghorydd Joy Rosser a'r Cynghorydd Geraint Hopkins wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw am gamu'n ôl o'u rolau yn rhan o'r Cabinet. Mae'r Cynghorydd Rosser wedi gwneud y penderfyniad hwn yn dilyn ei phenderfyniad i beidio â cheisio cael ei hailethol yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Mae'r Cynghorydd Hopkins wedi gwneud y penderfyniad hwn ar ôl iddo gael ei benodi'n Glerc a Phrif Swyddog Cyngor Cymuned Llantrisant yn ddiweddar.
Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi'r Cynghorydd Hopkins yn gynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y mis hwn. 
 
Dyma'r hyn ddywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am benderfyniad y ddau Aelod o'r Cabinet:
“Hoffwn ddiolch i Joy a Geraint am eu gwasanaeth hir yn rhan o'r Cabinet ac am y gwelliannau cadarnhaol y maen nhw wedi’u sicrhau yn rhan o'u cyfrifoldebau priodol o ran eu portffolio.

“Byddaf i a'r Cabinet yn gweld eisiau eu cyfraniadau i benderfyniadau strategol y Cyngor a dyma ddymuno'r gorau i’r Cynghorydd Rosser wrth iddi ymddeol o fyd gwleidyddiaeth fis Mai nesaf, ac yn yr un modd dymunwn bob lwc i’r Cynghorydd Hopkins yn ei yrfa newydd.

“Mae'r Cynghorydd Rosser wedi arwain ar fuddsoddiad sylweddol ym maes Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan gynnwys y cynlluniau sydd wrthi’n cael eu cyflawni yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun, y cynlluniau buddsoddi sydd ar y gweill ar gyfer ardal Pontypridd erbyn 2024, a chychwyn  gwaith trawsnewid cyfleusterau yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun a fydd yn cael eu cwblhau erbyn 2023, yn ogystal â'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar a fydd yn defnyddio cyllid ychwanegol gwerth £85 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu ysgol arbennig newydd. 

“Yn ystod ei amser yn rhan o'r Cabinet, mae’r Cynghorydd Hopkins wedi arwain ar waith trawsnewid a moderneiddio gwasanaethau i bobl hŷn, yn ogystal â hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan o'n holl benderfyniadau allweddol.

“Mae’r gwaith trawsnewid wedi cynnwys buddsoddiad gwerth £50 miliwn ym maes gofal ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf, gyda phum cyfleuster newydd yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion cenedlaethau o bobl hŷn yn y dyfodol. 

“Yn dilyn penderfyniadau’r Cynghorydd Rosser a’r Cynghorydd Hopkins, byddaf yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer y Cabinet newydd yn ystod y diwrnodau nesaf. 
Meddai Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Joy Rosser:
“Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint i wasanaethu yn rhan o Gabinet y Cyngor ers 2015 yn ogystal â chael cyfle i yrru cynlluniau trawsnewid ysgolion y Cyngor, a gwelliannau ym myd addysg, ledled Rhondda Cynon Taf yn eu blaenau ers camu i rôl yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg yn 2017. 
“A minnau wedi bod yn Gynghorydd ar ran Trealaw ers 2012, rydw i wedi gwneud y penderfyniad personol i gamu'n ôl o fyd gwleidyddiaeth leol, felly ni fyddaf i'n sefyll yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.
Am y rheswm yma, rydw i'n credu mai'r penderfyniad cywir yw camu'n ôl o'r Cabinet. Bydd hyn yn rhoi cyfle i unigolyn sydd am sefyll i gael ei ailethol ym mis Mai chwarae rhan wrth lywio darpariaeth gwasanaethau ac uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer ein cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig gan y bydd y Cabinet yn cynnig ei strategaeth gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 cyn bo hir.
“Rydw i'n dymuno cofnodi fy niolch i'm cyd-Gynghorwyr am eu cefnogaeth dros y deng mlynedd ddiwethaf ac yn ystod fy nghyfnod fel Aelod o'r Cabinet, yn ogystal ag i swyddogion y Cyngor am eu hymrwymiad i gyflawni'r safonau uchaf a'r gorau ar gyfer ein cymunedau.”
 
Meddai Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Geraint Hopkins:
“Yn dilyn cael fy mhenodi'n Glerc a Phrif Swyddog Cyngor Cymuned Llantrisant yn ddiweddar, does dim modd i fi barhau'n Aelod o'r Cabinet yn llawn amser. Felly, rydw i wedi gwneud penderfyniad personol i gamu'n ôl o'r rôl yn y Cabinet.
“Byddaf i’n parhau i fod yn rhan o’r Cyngor gan gynrychioli trigolion Llanharan mewn modd cadarnhaol, ochr yn ochr â’r newid yma yn fy ngyrfa bersonol, a byddaf yn sefyll i gael fy ailethol yn etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.
“Mae'r gwelliannau a buddsoddiad sydd wedi'u cyflawni ym maes gofal cymdeithasol yn ystod fy nghyfnod fel Aelod o'r Cabinet, wedi bod yn bosibl o ganlyniad i gymorth y Swyddogion ymroddgar rydyn ni'n ffodus o'u cael yn Rhondda Cynon Taf. Rhaid hefyd cydnabod ymrwymiad staff gofal cymdeithasol, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, am y gwahaniaeth personol maen nhw'n ei wneud i fywydau unigolion a theuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf. Rydw i wedi bod yn falch o gyfrannu at y maes gwasanaeth hynod bwysig yma.”
Bydd y Cynghorydd Morgan yn cadarnhau trefniadau ei Gabinet ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor yr wythnos yma, a hynny'n dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Rosser a‘r Cynghorydd Hopkins ddydd Mercher yr wythnos yma. 
Mae'r Cynghorydd Geraint Hopkins, sydd wedi cynrychioli ward etholiadol Llanharan ers 2004, wedi bod yn aelod o Gabinet y Cynghorydd Andrew Morgan ers 2014, gan fod yn gyfrifol am feysydd y gwasanaethau cymdeithasol a'r Gymraeg yn ystod y cyfnod yma. 
 
Ymunodd y Cynghorydd Rosser â'r Cabinet yn 2015, roedd ganddi gyfrifoldeb am faterion Ffyniant, Lles a Chymunedau yn y lle cyntaf, ac yna am Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ers 2017.
Wedi ei bostio ar 17/01/22