Skip to main content

Tynnu Sylw at Berchnogion Cŵn Anghyfrifol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i roi sylw i berchnogion cŵn anghyfrifol ac mae dros 185 o berchnogion wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i fynd adref gyda nhw!

Mae'r neges gan y Cyngor yn glir – os yw perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus gan Swyddog Gorfodi, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn dyrannu Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Ym mis Hydref 2017, roedd y Cyngor yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, pan roddodd Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Gan fod y gorchymyn wedi bod mor llwyddiannus, cafodd ei ymestyn ym mis Tachwedd 2020 i barhau i fynd i’r afael â’r mater annymunol yma.

Mae'r mesurau'n cynnwys y canlynol:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg
  • Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor

Un o'r pryderon allweddol yr aeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i'r afael ag ef oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd, ond gallai hefyd achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod perchnogion cŵn anghyfrifol yn talu sylw i'r rheolau, mae DWY neges syml wedi'u paentio mewn lleoliadau allweddol ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae'r negeseuon yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU' – ac maen nhw'n rhan o'r ymgyrch gyffredinol i gymryd camau i fynd i'r afael â'r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi'n rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Mae rhai perchnogion cŵn anghyfrifol yn penderfynu peidio â thalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig cychwynnol o £100 ac yn wynebu achos llys posibl. Mae hyn yn golygu taith gerdded gostus iawn, fel y mae’r troseddwyr isod wedi’i ddarganfod. Mae'n bosibl y caiff eu manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar eu cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Ym mis Rhagfyr aeth tri o bobl i'r llys am yr hyn yr oedden nhw wedi'i gyflawni, gan gynnwys:

  • Menyw yn gadael i’w chi faeddu yn ei chymuned ei hun, yn agos i’w chartref – bron ar ei stepen drws yn Rhydfelen! Costiodd y daith gerdded yma £194 iddi – bron i ddwbl y ddirwy gychwynnol!
  • Caniataodd dyn o Aberdâr i'w gi grwydro'n rhydd yn yr ardal gyfyngedig ar Gaeau Hamdden yr Ynys. Arweiniodd hyn at fil o £300!
  • Gadawodd dyn o Bontypridd i’w gi fynd i ardal gyfyngedig ym Mharc Coffa poblogaidd Ynysangharad, Pontypridd. Aeth e adref gyda’i gynffon rhwng ei goesau a dirwy o £374!

Byddai modd iddyn nhw fod wedi osgoi’r rhain i gyd pe baen nhw wedi dilyn y rheolau sydd wedi'u nodi o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Y gobaith yw y bydd y negeseuon yma'n atgoffa unigolion i gael gwared ar faw eu cŵn. Mae gyda ni lawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n gwybod nad oes angen eu hatgoffa nhw. Serch hynny, mae yna ychydig o bobl sydd angen eu hatgoffa o hyd. Mae'r neges yn glir - rhowch faw ci mewn bag ac mewn bin a pheidiwch â gadael i'ch ci gerdded ar gaeau chwarae.

“Mae’r euogfarnau diweddaraf unwaith eto yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baeddu cŵn. Os yw perchennog ci anghyfrifol yn anwybyddu'r negeseuon yma ac yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, byddwn ni'n gweithredu ac yn rhoi dirwy o £100 i chi. Os byddwch chi'n methu â thalu'r ddirwy yma, mae'n bosibl y byddwch chi'n wynebu achos llys ac yn derbyn dirwy fwy yn ogystal â chofnod troseddol, fel y mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma newydd ddysgu.

“Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod nhw am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys meysydd fel ardaloedd chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a chaeau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Cyngor wedi rhoi bron i 1030 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rheiny sydd wedi'u dal yn taflu sbwriel, tipio'n anghyfreithlon, torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac yn methu â rheoli eu gwastraff yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baeddu cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 20/01/22