Skip to main content

Dod o hyd i rywun i siarad ar fy rhan

Ystyr 'eiriolaeth' yw cael cymorth gan berson arall i'ch helpu chi i fynegi'ch sylwadau a'ch dymuniadau, ac i helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Mae rhywun sy'n eich helpu chi yn y ffordd yma yn cael ei alw'n 'eiriolwr'.  Mae eiriolwr yn rhywun fydd yn codi'i lais ar eich rhan, yn eich helpu chi i gael eich llais wedi'i glywed a helpu i gael pobl eraill i wrando ar yr hyn rydych chi'i eisiau. Mae swyddogaeth eiriolwr yn cynnwys dadlau eich achos pan fo angen, a sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn gan eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gwasanaethau eiriolaeth yn helpu pobl (yn enwedig y rhai sy'n fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas) i wneud y canlynol:  

  • manteisio ar wybodaeth a gwasanaethau
  • bod â rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau
  • archwilio dewisiadau ac opsiynau
  • amddiffyn a hyrwyddo eu hawliau a'u cyfrifoldebau
  • dweud eu dweud am faterion sydd o bwys iddyn nhw

Mae Canolfan Dewis ar gyfer Byw'n Annibynnol yn sefydliad gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau Eiriolaeth yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd modd i chi gael eiriolwr drwy gysylltu â Gwasanaeth Eiriolaeth Dewis

Canolfan Dewis ar gyfer Byw'n Annibynnol

Amber House,

Parc Busnes Glan-bad
Glan-bad
Pontypridd
CF37 5BP

Ffôn: 01443 827930