Cymorth i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf

Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned

Manteisiwch ar ystod o wasanaethau a chymorth yn eich Canolfan Cydnerthedd y Gymuned leol, gan gynnwys cymorth gyda chyflogaeth, budd-daliadau, dysgu cymunedol, cyfle i ddefnyddio cyfrifiaduron am ddim, a llawer yn rhagor.

Caring
Mae technoleg Larwm Cymunedol Gwifren Achub Bywyd yn wasanaeth larwm gartref sydd ar gael i bobl sydd angen byw bywyd yn annibynnol, ac yn ddiogel yn eu cartrefi'u hunain.
Car
Nod trwydded parcio Bathodyn Glas yw cynorthwyo pobl sydd ag anawsterau cerdded, nam gwybyddol neu broblemau symudedd eraill i deithio'n annibynnol, fel gyrrwr neu fel teithiwr. 
Bus
Gwnewch gais am ystod o docynnau bws, gweld telerau defnyddio neu roi gwybod am docyn bws sydd ar goll neu wedi'i ddwyn.
Knife-Fork-and-Plate
Pryd yn y Gymuned yw un o'r ffyrdd y mae modd i ni'ch helpu chi i barhau i fyw bywyd iach ac annibynnol.
Speech-Bubbles
Cewch wybod rhagor am sut mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio a pha gymorth sydd ar gael i chi
Pound-Sign
Canfod a fydd rhaid i chi gyfrannu’n ariannol am y gwasanaeth rydych chi’i angen
Family-with-Heart
Gwybodaeth am gadw'ch hun a phobl eraill yn ddiogel, ac sut i roi gwybod am bryderon.
House
Cymorth i'ch helpu chi i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref
Info
Cymorth i bobl ag anableddau dysgu, ynghyd â'u teuluoedd a'u cynhalwyr.
Family
Gwasanaethau arbenigol i gynorthwyo'r rheiny sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.

Cysylltwch â ni

Dydd Llun i ddydd Gwener ,
8:30am-5pm.

Ffoniwch 01443 425003

Y tu allan i oriau'r swyddfa, mewn achos o argyfwng yn unig.

Ffoniwch 01443 743665


E-bost

gwasanaethaucym
deithasol@rctcbc.gov.uk


Ar-lein

Mae modd i chi hefyd wneud ymholiad ar-lein

Gwnewch ymholiado

Gwybodaeth a chymorth i'ch helpu chi yn eich rôl ofalu

Cymorth i bobl sy'n wynebu anawsterau wrth gamddefnyddio sylweddau.
Dewisiadau tai posibl eraill os nad yw byw gartref yn bosibl mwyach.
Gwybodaeth am y ffyrdd y mae modd i ni roi cymorth lles meddyliol i chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano.
Mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf yn gweithio gydag oedolion sydd angen gofal, cymorth neu ryddid oddi wrth berygl er mwyn iddyn nhw gael byw yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain, gan fwynhau bywyd llawn.
Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddarparu'r gofal gorau posibl i ddiwallu'ch anghenion.
Mae'r Bartneriaeth yn annog, cefnogi a datblygu sgiliau gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol lleol.  
Ein nod yw gwella sgiliau a gwybodaeth y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghwm Taf.