Skip to main content

Asesiad anghenion ar gyfer oedolion a phobl hŷn

Os ydych chi o'r farn eich bod chi angen help neu gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd modd i chi ofyn am asesiad.

Efallai bod gyda chi anabledd corfforol, anawsterau clywed neu weld, salwch terfynol, neu eich bod chi'n dechrau drysu neu fod arwyddion o dementia yn ymddangos. Efallai eich bod chi'n fregus, yn oedolyn sydd mewn perygl o gael eich esgeuluso / cam-drin, ag anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl, neu'n gadael yr ysbyty. Mae modd i gynhalwyr ofyn am asesiad hefyd.

Pan fyddwch chi'n cael eich asesu, bydd yr asesydd yn dymuno siarad am yr holl anawsterau rydych chi'n eu hwynebu, a sut rydych chi'n dod i ben â'r heriau yma ar hyn o bryd. Yn ogystal â hynny, bydd e / hi eisiau gwybod am yr hyn rydych chi'n gobeithio parhau i wneud, a'r hyn yr hoffech chi'i gyflawni.

Bydd yr asesiad yn dechrau ystyried sut bydd modd diwallu'ch anghenion gofal. Gallai hyn gynnwys nodi sut byddai gwasanaethau ataliol megis cymhorthion syml (megis dyfeisiau i agor jariau a thuniau yn haws), addasiadau i'ch cartref (megis rheiliau llaw) neu wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn y gymuned yn diwallu'ch angen.  Bydd yr asesiad hefyd yn nodi a oes lefel uwch o angen gyda chi lle efallai y bydd angen help yn eich cartref eich hun neu ofal mewn cartref gofal.

Caiff asesiadau eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol neu weithwyr gofal yn y gymuned i'n helpu ni i wneud y canlynol:

  • deall y problemau rydych chi'n eu hwynebu
  • cadarnhau eich bod chi'n gymwys i dderbyn ein gofal
  • cynllunio (gyda chi) y ffordd orau i chi ddatrys y problemau rydych chi'n eu hwynebu

Bydd yr asesydd hefyd eisiau gwybod am yr help rydych chi'n ei gael ar hyn o bryd a phwy sy'n rhoi'r help. Bwriad hyn yw sicrhau ein bod ni'n deall yr anawsterau rydych chi'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn llawn, a chynllunio ymlaen llaw rhag ofn na fydd eich rhwydwaith gofal/cymorth ar gael yn y dyfodol.

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal mewn ffordd sy'n sicrhau eich cyfranogiad a bydd digon o gyfle i chi sôn am eich holl anghenion.

Os oes gyda chi ffrind neu aelod o'r teulu sy'n gofalu amdanoch chi yn ddi-dâl, bydd modd iddo fe / iddi hi gael asesiad cynhaliwr i weld a oes angen cymorth arno / arni wrth ofalu amdanoch chi.

Os ydych chi'n meddwl bod angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith.  
Pe byddai'n well gyda chi, gallai ffrind, aelod o'r teulu, cymydog neu weithiwr proffesiynol, er enghraifft meddyg neu nyrs, gysylltu â ni ar eich rhan.

Carfan Ymateb ar Unwaith

E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk 
Tel: 01443 425003

Mae’r Gwasanaeth Argyfwng Tu allan i oriau yn ymateb ar frys i argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos.

Tel: 01443 743665 / 01443 657225