Skip to main content

Gostyngiad Treth y Cyngor

Os ydych chi'n agored i dalu Treth y Cyngor lle rydych chi'n byw, a'ch bod chi ar incwm isel, mae'n bosibl y bydd modd i chi hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor i'ch helpu chi i dalu am Dreth y Cyngor neu ran ohoni. Bydd maint y gostyngiad yn eich Treth y Cyngor yn dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau. 

Mae modd i chi gyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor os ydych chi'n gweithio neu'n ddi-waith. Fodd bynnag, os oes gyda chi gyfalaf sydd dros £16,000, mae'n bosibl fydd dim hawl gyda chi i gael gostyngiad.

Sut rydw i'n gwneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor?

Cyflwyno cais ar-lein ar gyfer eich Gostyngiad Treth y Cyngor
  • Os nad ydych chi'n gallu cyflwyno cais ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen uchod, mae modd i chi ofyn am ffurflen gais drwy ffonio 01443 425002.  

Help i lenwi'ch ffurflen gais am Fudd-dal Tai/Gostyngiad Treth y Cyngor.

Os ydych chi'n berson hŷn neu'n anabl ac wedi derbyn ffurflen gais, ond bod angen cymorth arnoch chi i'w llenwi, mae'n bosibl y gallwn ni ymweld â chi. Cysylltwch â ni i ofyn am ymweliad.

Ar ôl i chi wneud cais, byddwn ni'n cysylltu â chi dros y ffôn neu'n ysgrifenedig os bydd angen rhagor o wybodaeth arnon ni. Os byddwch chi'n nodi'ch rhif ffôn presennol ar eich cais, bydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i ni gysylltu â chi.

Os hoffech chi wneud cais am fath arall o Fudd-dal, neu weld beth arall mae modd i chi ei hawlio, defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau.

Os bydd fy amgylchiadau'n newid, beth fydd yn digwydd?

Os bydd unrhyw newid o ran eich amgylchiadau (neu amgylchiadau'r bobl sy'n byw gyda chi), peidiwch ag aros i ni gysylltu â chi. Rhowch wybod i ni am y newid. Os byddwch chi'n oedi, mae'n bosibl fyddwch chi ddim yn derbyn cymaint o fudd-dal ag y gallai fod hawl gyda chi i'w gael, neu'ch bod chi'n derbyn gormod o fudd-dal.

Os nad ydych chi'n siŵr am ba newidiadau y mae rhaid i ni gael gwybod amdanyn nhw, edrychwch ar gefn eich llythyr diweddaraf neu gysylltu â ni (mae'r manylion cyswllt i'w gweld isod).

Os ydy'ch amgylchiadau chi wedi newid, neu os ydych chi wedi symud i gyfeiriad arall, mae rhaid i chi roi gwybod i ni drwy lenwi'r ffurflen isod:

Os ydych chi'n dymuno rhoi gwybod eich bod chi wedi newid cyfeiriad ac rydych chi'n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor, cwblhewch ffurflen gan ddefnyddio'r ddolen isod:

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd, i wirio nad oes newid yn eich amgylchiadau. Os byddwn ni'n gwneud hyn, byddwn ni naill ai'n ymweld â chi, yn anfon ffurflen drwy'r post i chi ei llenwi neu'n rhoi galwad ffôn i chi.

Fydd hi'n bosibl ôl-ddyddio fy nghais am Ostyngiad Treth y Cyngor?

Os ydych chi o'r farn y dylai'ch Gostyngiad Treth y Cyngor fod wedi dechrau ar ddyddiad cynharach, ysgrifennwch aton ni a gofyn i ni ôl-ddyddio'ch hawliad.

Fel arfer, fydd ceisiadau ddim yn cael eu hôl-ddyddio cyn y diwrnod y bydd eich cais yn cael ei gyflwyno, oni bai eich bod chi'n gallu dangos rheswm da dros beidio â gwneud cais ar yr adeg briodol.

I gefnogi'ch cais ôl-ddyddio, cyflwynwch dystiolaeth (fel papur meddyg ac ati) yn gofyn i ni ôl-ddyddio'ch hawliad.

Mae modd i ni ôl-ddyddio Gostyngiad Treth y Cyngor hyd at 6 mis yn unig.

Os byddwn ni'n penderfynu dydych chi ddim wedi rhoi rheswm da a dydyn ni ddim yn gallu ôl-ddyddio'ch cais, bydd y rhesymau dros hyn yn cael eu hesbonio yn ein llythyr. Bydd hawl gyda chi i apelio yn erbyn ein penderfyniad.

Cyngor Rhondda Cynon Taf

Ysgrifennwch at:                                                                                                                               

Tŷ Oldway
Stryd Y Porth
Y Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST

E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk  
Ffôn: 01443 425002