Skip to main content

Lwfans Tai Lleol - Adolygiadau ac Apeliadau

Os ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad rydyn ni wedi'i wneud wrth asesu'ch cais, bydd modd i chi herio'r penderfyniad yna mewn nifer o ffyrdd. Mae croeso i chi wneud y canlynol:
  • gofyn i ni egluro'r penderfyniad
  • gofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto, hynny yw, 'adolygu'r' penderfyniad
  • cyflwyno apêl mewn ysgrifen gan roi'ch rhesymau dros beidio â chytuno â'r penderfyniad

Sut mae rhywun yn gofyn i'r Cyngor adolygu'r penderfyniad?

Fe gewch chi ofyn i ni adolygu ein penderfyniad ynglŷn â'ch cais am Fudd-dal Tai, gan gynnwys y Lwfans Tai Lleol rydyn ni wedi'i bennu ar eich cyfer chi. Rhaid i'ch cais am adolygiad fod mewn ysgrifen. Rhaid i chi esbonio'n fanwl pam rydych chi o'r farn bod ein penderfyniad yn anghywir.

Rhaid i ni dderbyn eich cais am adolygiad cyn pen mis o ddyddiad y llythyr sy'n rhoi ein penderfyniad. Os na chawn hi hynny o fewn un mis, mae hi'n bosibl na fydd modd i ni edrych ar eich cais eto.

Does dim hawl gyda chi i ofyn i ni adolygu'r cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer yr ardal rydych chi am fyw ynddi hi.

Rydw i eisiau gofyn am apêl - sut mae gwneud hynny?

Fe gewch chi ofyn i'r Gwasanaeth Tribiwnlys i edrych ar ein penderfyniad. Rhaid i'ch cais am apêl fod mewn ysgrifen. Bydd manylion ynglŷn â sut i apelio yn cael eu cynnwys yn eich llythyr sy'n rhoi ein penderfyniad. Rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys dderbyn eich cais am apêl cyn pen mis o ddyddiad y llythyr sy'n rhoi ein penderfyniad. Os na chân nhw hynny o fewn un mis, mae hi'n bosibl na fydd modd iddyn nhw edrych ar eich cais.

Os ydych chi wedi gofyn i ni adolygu ein penderfyniad ac wedi cael ateb oddi wrthon ni, bydd modd i chi ofyn i'r Gwasanaeth Tribiwnlys edrych ar ein hadolygiad. Rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys dderbyn eich cais am apêl cyn pen mis o ddyddiad y llythyr sy'n rhoi ein penderfyniad. Os na chân nhw hynny o fewn un mis, mae hi'n bosibl na fydd modd iddyn nhw edrych ar eich cais.

Mae'n bosibl y bydd modd i'r Gwasanaeth Tribiwnlys ystyried apêl ar ôl y cyfnod yma o dan amgylchiadau arbennig. Does dim modd iddyn nhw wneud hynny os yw'r apêl yn cael ei gwneud ar ôl 13 mis o ddyddiad y llythyr sy'n rhoi ein penderfyniad gwreiddiol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd (www.tribunals.gov.uk)

Pwy all wneud apêl?

Gall rhywun y mae'r penderfyniad yn effeithio arno apelio, er enghraifft:

  • y person sy'n gwneud y cais
  • rhywun sy'n cael ei benodi gan y llysoedd i weithredu ar ran y person sy'n gwneud y cais
  • rhywun sy'n cael ei benodi i weithredu ar ran y person sy'n gwneud y cais, os yw'r Cyngor yn cytuno â hyn
  • landlord - ond dim ond ynglŷn ag i bwy y dylai’r budd-dal gael ei dalu
  • asiant - ond dim ond ynglŷn ag i bwy y dylai’r budd-dal gael ei dalu
  •  unrhyw unigolion rydyn ni am adennill gordaliad oddi wrthyn nhw

Cysylltu â ni

Os ydych eisiau gwybod rhagor am y newidiadau a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Budd-daliadau Tai
CBS Rhondda Cynon Taf 
Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002 E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk