Skip to main content

Genedigaethau marw cofrestru

Beth yw plentyn marw-anedig? Yn ôl y gyfraith, plentyn sy’n cael ei eni ar ôl i’w fam fod yn feichiog am 24 wythnos, ac sydd erioed wedi anadlu na dangos unrhyw arwyddion bywyd eraill ar ôl iddo gael ei eni.

Sylwer – Os yw’r plentyn wedi anadlu, neu ddangos arwyddion bywyd eraill, bydd yn cyfrif fel plentyn a aned yn fyw o ran cofrestru genedigaethau. Nid oes gwahaniaeth pa mor hir fu’r fam yn feichiog.

Pan gaiff plentyn ei eni’n farw, bydd y meddyg neu’r fydwraig oedd yn bresennol, neu oedd wedi archwilio corff y plentyn, yn rhoi tystysgrif feddygol ar gyfer y farwenedigaeth. Os ydych chi’n cofrestru’r farwenedigaeth, rhaid i chi fynd â’r dystysgrif hon i Swyddfa’r Cofrestrydd.

Pryd i gofrestru marwenedigaeth

Mae'n rhaid cofrestru pob marwenedigaeth yng Nghymru a Lloegr yn yr ardal ble digwyddodd e, fel arfer o fewn 42 diwrnod. Mae’n rhaid ei gofrestru cyn pen 3 mis ar ôl iddo ddigwydd. Bydd gwybodaeth yn cael ei roi i’r cofrestrydd gan y person sy’n cofrestru’r marwenedigaeth. Bydd yr wybodaeth yma’n cael ei chofnodi yn y gofrestr marwenedigaethau. Bydd y person sy’n cofrestru’r farwenedigaeth yn llofnodi’r cofnod.

Weithiau, fydd dim rhaid mynd i Swyddfa’r Cofrestrydd, a gellir cofrestru yn yr ysbyty cyn i’r fam fynd adref. Mae oriau agor Cofrestrydd yn amrywio o ardal i ardal, ac mae’r rhan fwyaf yn gweithredu system apwyntiadau. Ffoniwch swyddfa gofrestru’r ardal berthnasol i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad.

Os yw mynd i’r ardal lle digwyddodd y farwenedigaeth yn anodd, mae’n bosibl y bydd modd rhoi’r wybodaeth ar gyfer y cofrestru i gofrestrydd mewn ardal arall. Bydd y cofrestrydd yn cofnodi’r manylion ar ffurflen ddatganiad, ac yn ei hanfon at gofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwenedigaeth. Bydd y cofrestrydd sy’n derbyn y datganiad yn nodi’r wybodaeth ar gofrestr y marwenedigaethau. Mae modd archebu a thalu am dystysgrifau marwenedigaeth adeg gwneud y datganiad, a byddan nhw’n cael eu postio, ynghyd â’r ddogfen ar gyfer cynnal angladd neu amlosgiad, gan gofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwenedigaeth. Os defnyddir y weithdrefn datganiad, gall gymryd diwrnod neu ddau yn ychwanegol cyn cyhoeddi’r ddogfen ar gyfer cynnal angladd neu amlosgiad. Dylai’r teulu drafod y trefniadau â’u trefnydd angladdau a chyda’r Cofrestrydd er mwyn osgoi oedi o ran yr angladd.

Y Gymraeg

Caniateir cofrestru marwenedigaeth yng Nghymru’n ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, os yw’r un sy’n cofrestru’r farwenedigaeth yn rhoi’r wybodaeth yn y Gymraeg, a’r Cofrestrydd, yn medru deall ac ysgrifennu Cymraeg. Os nad yw’r Cofrestrydd yn medru deall ac ysgrifennu Cymraeg, mae modd rhoi’r wybodaeth mewn ardal wahanol lle mae yna Gofrestrydd sy’n siarad Cymraeg, gan ddefnyddio’r weithdrefn datganiad fel y disgrifiwyd uchod. Dim ond yn Saesneg mae modd cofrestru marwenedigaeth sy’n digwydd yn Lloegr.

Pwy sy’n cael cofrestru marwenedigaeth

Dyma esbonio pwy sy’n cael cofrestru marwenedigaeth, a phryd mae hawl cynnwys gwybodaeth am y tad yn y Gofrestr.

Rhieni sy’n briod

Os oedd rhieni’r plentyn yn briod â’i gilydd adeg y farwenedigaeth, neu adeg cenhedlu’r plentyn, bydd hawl gan y fam neu’r tad i gofrestru’r farwenedigaeth.

Rhieni sydd ddim yn briod

Os oedd rhieni’r plentyn ddim yn briod â’i gilydd adeg y farwenedigaeth, neu adeg cenhedlu’r plentyn, dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caniateir cofnodi gwybodaeth am y tad yn y gofrestr.

  • Os bydd y fam a’r tad yn mynd i’r Swyddfa Gofrestru ac yn llofnodi’r gofrestr farwenedigaethau gyda’i gilydd;
  • Os nad yw’r tad yn gallu mynd i’r Swyddfa Gofrestru gyda’r fam. Yn yr achos yma, mae hawl gan y tad wneud datganiad statudol yn cydnabod mai ef yw'r tad – bydd angen i’r fam roi hwn i'r Cofrestrydd (bydd y ffurflen yma ar gael gan unrhyw Gofrestrydd yng Nghymru a Lloegr);
  • Os nad yw’r fam yn gallu mynd i’r Swyddfa Gofrestru gyda’r tad – caniateir i’r fam wneud datganiad statudol yn cydnabod mai ef yw'r tad – bydd angen i’r tad roi hwn i'r Cofrestrydd (bydd y ffurflen yma ar gael gan unrhyw Gofrestrydd yng Nghymru a Lloegr).

Os na fydd gwybodaeth am y tad yn cael ei chofnodi, mae’n bosibl y bydd modd ailgofrestru’r farwenedigaeth yn ddiweddarach er mwyn cynnwys ei fanylion ef. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar sut i wneud cais am ailgofrestru marwenedigaeth.

Pobl eraill sy’n cael cofrestru marwenedigaethau

Er mai’r rhieni sy’n cofrestru’r mwyafrif o farwenedigaethau, weithiau fydd dim modd i’r fam na’r tad wneud hyn. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Cofrestrydd yn trefnu i’r person gorau o’r canlynol ddod i gofrestru’r farwenedigaeth:

  • meddiannydd y tŷ, neu un o uchel swyddogion yr ysbyty, lle cafodd y plentyn ei eni’n farw
  • rhywun oedd yn bresennol adeg y farwenedigaeth
  • person sy’n gyfrifol am y plentyn marw-anedig
  • y person a ddaeth o hyd i'r plentyn marw-anedig, (lle dyw dyddiad a lleoliad y farwenedigaeth ddim yn hysbys.

Gwybodaeth sydd i’w darparu ar gyfer marwenedigaeth:

Am y plentyn

  • dyddiad a man y farwenedigaeth
  • yr enw(au) blaen a’r cyfenw, os yw’r rhieni’n dymuno enwi’r plentyn marw-anedig
  • rhyw y plentyn

Am y tad (lle mae’r wybodaeth yma i’w chofnodi yn y gofrestr)

  • enw(au) blaen a chyfenw
  • dyddiad a man geni
  • swydd adeg y farwenedigaeth neu, os yn ddi-waith ar yr adeg yna, ei swydd ddiwethaf

Am y fam

  • enw(au) blaen a chyfenw
  • cyfenw’r fam cyn iddi briodi, os yw hi’n briod neu wedi bod yn briod
  • dyddiad a man geni
  • swydd adeg y farwenedigaeth neu, os yn ddi-waith ar yr adeg yna, ei swydd ddiwethaf
  • cyfeiriad arferol ar ddyddiad y farwenedigaeth
  • dyddiad priodas, os yn briod â thad y plentyn marw-anedig adeg y farwenedigaeth
  • nifer y plant blaenorol o’r gŵr presennol ac o unrhyw gyn-ŵr.

Mae’n bwysig iawn bod yr wybodaeth sy’n cael ei gofnodi yng nghofrestr y marwenedigaethau yn gywir. Gwnewch yn siŵr bod dim camgymeriadau yn eich enw blaen neu gyfenw, a pheidiwch â rhoi disgrifiad anghywir o swydd y tad neu’r fam. Bydd gwaith cywiro’r gwall yn creu llawer o drafferth i’r rhieni, neu i’r person arall sy’n cofrestru’r farwenedigaeth. Os byddwch chi’n cofnodi’r farwenedigaeth, gwiriwch yr wybodaeth wedi’i chofnodi yn y Gofrestr yn ofalus iawn cyn i chi’i llofnodi.

Os mai dim Saesneg yw iaith gyntaf y tad neu’r fam, ac os oes angen help i gofrestru’r farwenedigaeth, byddai’n help mawr pe bai ffrind neu berthynas yn mynd gyda nhw i Swyddfa’r Cofrestrydd er mwyn cyfieithu. Cofiwch er hyn fod rhaid i’r rhieni gofrestru’r farwenedigaeth yn bersonol. Does dim hawl gan ffrind neu berthynas gofrestru ar ran y rhieni.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar sut i gywiro manylion wrth gofrestru marwenedigaeth.

Pa dystysgrifau fydd yn cael eu rhoi?

Tystysgrif Gofrestru

Bydd y person sy’n cofrestru’r farwenedigaeth, yn derbyn Tystysgrif Gofrestru yn rhad ac am ddim. Mae’r Dystysgrif hon yn darparu prawf bod y farwenedigaeth wedi’i chofrestru. Caiff unrhyw enwau a roir i’r plentyn marw-anedig, a’u cofnodi yn y Gofrestr, eu cofnodi ar y Dystysgrif Gofrestru hefyd.

Tystysgrif Marwenedigaeth

Ar ôl i farwenedigaeth gael ei chofrestru, caniateir i’r fam neu’r tad brynu un neu ragor o dystysgrifau adeg y cofrestru, neu ar unrhyw adeg wedyn. (Os yw’r tad am gael tystysgrif, byddai gofyn am gofrestru’i fanylion ef yn y cofnod yn y Gofrestr). Os mai dim chi yw mam neu dad y plentyn, a’ch bod am wneud cais am dystysgrif, rhaid i chi anfon eich cais i’r General Register Office, Anniversary Section, PO Box 2, Southport, PR8 2JD, Lloegr. Rhaid i chi roi manylion llawn y rheswm dros ofyn am Dystysgrif.

Tystysgrif ar gyfer Claddu neu Amlosgi

Bydd y Cofrestrydd yn dyroddi Tystysgrif ar gyfer claddu (mewn mynwent) neu amlosgi (mewn amlosgfa). Fel arfer, bydd y dystysgrif yn cael ei rhoi i’r Trefnydd Angladdau fydd yn gwneud y trefniadau. Does dim modd cynnal angladd tan fod y dystysgrif wedi cael ei rhoi i’r awdurdod claddu neu’r amlosgfa. Os bydd oedi gyda’r cofrestru, mae’n bosibl y bydd modd rhoi tystysgrif ar gyfer claddu (mewn mynwent) cyn cofrestru, ond dim ond os nad oes rhaid dweud wrth y crwner am y farwenedigaeth. Does dim modd rhoi tystysgrif ar gyfer amlosgi cyn cofrestru’r farwenedigaeth.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru leol.

Ar gyfer Rhondda Cynon Taf:

Swyddfa Gofrestru’r Ardal
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP

Ffôn: 01443 494024

E-bost: Cofrestrydd@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Noder: Mae rhai apwyntiadau hwyrach yn y dydd ar gael ar ddydd Mawrth. Os ydych chi am drefnu un o'r apwyntiadau yma, gofynnwch am hyn wrth ffonio'r swyddfa i drefnu eich apwyntiad.