Skip to main content

Cofrestru Marwolaeth

PWYSIG: Mae'r broses ar gyfer cofrestru marwolaeth wedi newid oherwydd mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i amddiffyn staff ac aelodau'r cyhoedd.

Gweld yr wybodaeth ddiweddaraf yma.

Carwn estyn ein cydymdeimlad yn ystod y cyfnod anodd hwn o golli anwylyd. Gall hwn fod yn gyfnod anodd iawn i’r sawl sy newydd golli anwylyd ac sy’n gorfod cofrestru’r farwolaeth.

Ein bwriad yw eich cefnogi chi mewn ffordd barchus ac urddasol a chynnig cymorth a chyngor ar brofedigaeth trwy’r Gwasanaeth Dywedwch Unwaith yn unig

Pa mor fuan mae modd cofrestru’r farwolaeth?

Yn amlach na pheidio, mae gofyn cofrestru marwolaeth cyn pen 5 diwrnod o ddyddiad y farwolaeth. Gall fod eithriadau i’r rheol yma, pan fydd gofyn i’r Crwner fod ynglŷn â’r achos, er enghraifft.

Rhagor o wybodaeth am rôl y Crwner a phryd bydd ynglŷn â marwolaethOs ydych chi’n ymwybodol bod Crwner yn rhan o bethau, cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru leol am ragor o fanylion/cyngor.

I gofrestru marwolaeth a ddigwyddodd o fewn Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â’r Cofrestrydd yn:

Y Swyddfa Gofrestru

Adeiladau’r Cyngor
Heol Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP

Ffôn: (01443) 494024

 

Pwy ddylai gofrestru’r farwolaeth?

Perthynas agosaf i’r ymadawedig sy’n bennaf gyfrifol am gofrestru’r farwolaeth.

Os does dim modd i berthynas i gofrestru’r farwolaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am gyngor.

Ble ca’ i gofrestru marwolaeth sy wedi digwydd y tu allan i Rondda Cynon Taf?

Mae gofyn cofrestru marwolaeth yn yr ardal lle ddigwyddodd y farwolaeth. Os oedd y farwolaeth wedi digwydd y tu allan i gylch Rhondda Cynon Taf, mae modd ichi:

  • Galw heibio i’r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle ddigwyddodd y farwolaeth a phrynu copïau o’r cofnod marwolaeth ar adeg y cofrestru neu, os ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf a digwyddodd y farwolaeth yn bell i ffwrdd, cewch chi gwblhau a llofnodi datganiad gan nodi i’r manylion er mwyn eu cofnodi yng nghofrestr y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau’r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP.
  • Ffonio (01443) 494024 i drefnu apwyntiad.Byddwn ni’n anfon y datganiad I’r swyddfa briodol yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth ar eich rhan.

Sylwer: efallai bydd cofrestru marwolaeth yn y ffordd yma’n arwain at beth oedi o ran trefnu angladd.

Mae’r rhan fwyaf o swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu system apwyntiadau, ac felly, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r swyddfa rydych chi eisiau’i mynychu i drefnu apwyntiad cyn galw heibio.

Pa wybodaeth fydd angen i fi ei rhoi i’r Cofrestrydd?

Wrth gofrestru marwolaeth, bydd gofyn i chi ateb cwestiynau ynglŷn ag enwau, dyddiadau a lleoliadau fydd yn rhan o’r cofnod ar y gofrestr. Sicrhewch fod gyda chi’r sillafiadau cywir cyn dod i’r apwyntiad.

Rhaid i chi wirio cofnod y gofrestr yn ofalus i sicrhau bod yr wybodaeth wedi’i chofnodi‘n gywir, gan y bydd unrhyw wallau yn destun ffi i gywiro’r cofnod.

Ar ôl i’r holl waith papur gael ei gwblhau, cewch chi brynu copïau llawn o’r cofnod, £11 fesul tystysgrif.

Nodwch: mae’r swyddfa uchod yn gweithredu system apwyntiadau llym. Ffoniwch y swyddfa i drefnu apwyntiad sy’n gyfleus i chi a’r Cofrestrydd cyn dod i’r swyddfa.

Pa wybodaeth fydd angen i fi’i chyflwyno i’r Cofrestrydd?

Am yr Ymadawedig

  • Enw llawn ac unrhyw enwau blaenorol
  • Dyddiad a man geni, galwedigaeth a chyfeiriad arferol
  • Enw llawn a galwedigaeth priod/partner  sifil yr ymadawedig
  • Enw llawn a chyfeiriad yr hysbysydd a’i  berthynas â’r ymadawedig

Cofrestriad Dwyieithog

Os hoffech i'r farwolaeth gael ei chofrestru yn Saesneg ac yn Gymraeg, nodwch hyn wrth drefnu’ch apwyntiad. Dylai fod gyda chi’r sillafiadau Saesneg a Chymraeg cywir wrth baratoi ar gyfer eich apwyntiad.

Pa ddogfennau bydd y cofrestrydd yn eu rhoi imi?

Yn y rhan fwyaf o achosion, unwaith bod y drefn gofrestru wedi dod i ben, bydd yn rhoi’r dogfennau canlynol i chi am ddim:

  • Ffurflen Werdd - sy’n caniatáu cynnal angladd
  • Ffurflen  Wen – ffurflen sy’n rhoi gwybod am achos o farwolaeth ar gyfer sylw’r Adran Nawdd Cymdeithasol

Mae copïau ardystiedig o’r cofnod marwolaeth ar gael ar adeg y cofrestru. Y ffi statudol yw £11 fesul tystysgrif.

Mae ffïoedd tystysgrifau wedi’u pennu yn ôl cyfraith statud ac maen nhw’n cael eu hadolygu bob blwyddyn. Mae’n bosibl bydd angen sawl tystysgrif i drefnu ystad yr ymadawedig.

Beth yw’r costau?

Mae cofrestru marwolaeth yn rhad ac am ddim.

Beth ydy copi ardystiedig?

Mae copi ardystiedig (Tystysgrif Geni, Marwolaeth neu Briodas) yn union gopi o’r cofnod. Mae’r tystysgrifau wedi’u hargraffu ar bapur dyfrnod ac maen nhw’n ddarostyngedig i Hawlfreintiau’r Goron ©. Dylid eu defnyddio i ddibenion cyfreithiol neu ddangos prawf o bwy ydych chi.

Gwasanaeth Dywedwch Unwaith yn unig

Bwriad y gwasanaeth yma yw helpu teuluoedd yr ymadawedig i roi gwybod i adrannau eraill y cyngor a sefydliadau’r llywodraeth am farwolaeth ar adeg y cofrestru fel nad oes angen iddyn nhw drefnu apwyntiadau eraill i weld llawer o adrannau a sefydliadau yn y dyfodol. Bydd angen i chi ddod â phasbort, trwydded yrru a cherdyn yswiriant gwladol yr ymadawedig gyda chi i’ch apwyntiad os byddwch chi’n dymuno manteisio ar y gwasanaeth yma.

Cymorth Arbennig

Os nad Saesneg ydy’ch iaith gyntaf a hoffech chi ddod â rhywun yn gefn ichi yn ystod y drefn gofrestru, mae croeso ichi ddod ag aelod o’r teulu neu gyfaill yn gefn.

Cofiwch, mae gofyn eich bod chi’n cofrestru’r farwolaeth mewn person. Does dim hawl gofyn i aelod o’r teulu neu gyfaill i ddod ar eich rhan.

Os bydd angen cymorth pellach arnoch chi, byddwch cystal â thrafod eich anghenion gyda’r cofrestrydd pan fyddwch chi’n ffonio i drefnu apwyntiad.

Profiant

Cynrychiolydd personol ydy’r enw ar gyfer y sawl sy’n rhoi trefn ar yr hyn roedd yr ymadawedig yn berchen arno (ysgutor os ydy’r sawl wedi’i enwi yn yr ewyllys, neu’r gweinyddydd os does dim ysgutor wedi’i enwi yn yr ewyllys).

A chithau’n gynrychiolydd personol, bydd gofyn ichi gyflwyno cais i brofi ewyllys neu, os oes ewyllys yn bod, cyflwyno cais am lythyrau gweinyddu. Bydd hyn yn rhoi hawl ichi i dalu biliau a rhoi trefn ar ystad yr ymadawedig.

I gael rhagor o fanylion ar sut mae cael profiant, cysylltwch â’r Wifren Gymorth Materion Profiant a Threthi Etifeddiant ar: 0845 30 20 900.

Mae’r wifren gymorth ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00am a 4.00pm, ac eithrio gwyliau’r banc. Fel arall, mae rhagor o fanylion i’w cael ar wefan Gwasanaeth y Llysoedd.  Mae rhagor o fanylion am Drethi Etifeddiant i’w cael ar wefan Cyllid y Wlad (Saesneg yn unig).

Gwybodaeth Bellach

Os oes angen rhagor o wybodaeth/cyngor arnoch chi o ran cofrestru marwolaeth, ffoniwch ni ar 01443 494024. Byddwn ni’n hapus i roi cyngor i chi. Fel arall, ewch i wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol: www.gro.gov.uk.

Mae’r wybodaeth ar y tudalennau yma ar gyfer canllawiau cyffredinol yn unig ac dydy hi ddim yn esboniad cyflawn na chynhwysfawr o’r deddfau marwolaeth presennol.

Boddhad Cwsmeriaid

Mae boddhad cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni. Hoffen ni gynnig gwasanaeth personol a phroffesiynol, o safon uchel lle bo modd. Mynegwch eich barn trwy gwblhau ein holiadur y gwasanaeth cofrestru. Fel arall, anfonwch lythyr:-

Swyddog Priodol ar gyfer Materion Cofrestru

 

Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd,
Tŷ Elái,
Trewiliam,
Tonypandy
CF40 1NY