Skip to main content

Gwerthu i unigolion tan oed – Rhoi gwybod am achos o werthu i unigolyn tan oed

Nod y gyfraith mewn perthynas ag oedrannau prynu gofynnol yw diogelu iechyd a diogelwch pobl ifainc. Gallai perchnogion busnes a chynorthwywyr siop gael eu herlyn os byddan nhw'n gwerthu'n anghyfreithlon.

Mae modd i chi roi gwybod am achos o werthu i unigolyn tan oed i'n hadran Safonau Masnach a bydd yn ymchwilio i'r achos. 

Rhoi gwybod am achos o werthu i unigolyn tan oed ar-lein

Mae cyfyngiadau oedran ar y cynhyrchion canlynol:

Cynhyrchion sydd â chyfyngiad oedran 

 Sigaréts / Cynnyrch tybaco

 18 oed

 Tocynnau Loteri

 16 oed

 Cardiau Crafu

 16 oed

 Nwy Ail-lenwi Tanwr Sigarét

 18 oed

 Tân gwyllt

 18 oed

 DVDs a fideos

 12, 15, 18 oed

 Gemau Gyfrifiaduron

 12, 15, 18 oed

 Alcohol

 18 oed

Deddfwriaeth

Dyma'r ddeddfwriaeth sy'n nodi'r cynhyrchion yma;

  • Rheoliadau Adlenwi Tanwyr Sigaréts (Diogelwch) 1999
  • Deddf Cyflenwi Sylweddau Meddwol 1985
  • Rheoliadau Tân Gwyllt (Diogelwch) 1997
  • Deddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993
  • Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933
  • Deddf Recordiadau Fideo 1984
  • Deddf Trwyddedu 2003

Sut y caiff y gyfraith ei gorfodi?

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach wedi ymrwymo i leihau nifer yr achosion o werthu'n anghyfreithlon. Mae'n ceisio gwneud hynny drwy weithio gyda busnesau, cynnig cyngor ac arweiniad, ymchwilio i gwynion, a chynnal profion prynu ar y cyd â gwirfoddolwyr ifainc er mwyn asesu cydymffurfiaeth. Mewn achosion o'r fath, mae gwirfoddolwyr yn dilyn canllawiau cenedlaethol caeth i sicrhau tegwch.

Mae Swyddogion Safonau Masnach a'r heddlu, ar y cyd, yn gorfodi'r gyfraith sy'n gwahardd gwerthu alcohol i blant.

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach bob amser yn barod i roi gwybodaeth a chyngor personol i fasnachwyr am werthu i brynwyr tan oed.

Alcohol

Beth y mae'r gyfraith yn ei ddweud am werthu alcohol i bobl ifainc?

1. Mae'n drosedd i rywun werthu alcohol i rywun o dan 18 oed.
2. Os bydd rheolwr siop neu rywun sy'n gyfrifol am safle'n gwybod am achos o werthu i berson dan 18 oed, ac os bydd yn ei ganiatáu, mae modd iddo gael ei ddal yn gyfrifol.
3. Bydd rhywun sy'n prynu alcohol dros rywun dan 18 oed, neu sy'n ceisio gwneud hynny, yn cyflawni trosedd.

Pwy sy'n gorfodi'r gyfraith?

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach a'r heddlu yn cydweithio i orfodi'r gyfraith o ran gwerthu alcohol i bobl ifainc.

A ddylwn i arddangos unrhyw hysbysiadau ar gyfer cwsmeriaid?

Does dim gofyniad cyfreithiol i arddangos hysbysiad rhybuddio. Serch hynny, efallai byddwch chi am ystyried arddangos hysbysiadau'n amlwg yn rhan o'ch system ar gyfer osgoi achosion o werthu'n anghyfreithlon. Dyma enghraifft addas: ‘Mae'n anghyfreithlon gwerthu alcohol i unrhyw un sy'n iau na 18 oed’

Beth yw'r cosbau am dorri'r gyfraith?

Gallech chi gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £5000 am werthu'n anghyfreithlon. Os bydd aelod o staff yn gwerthu alcohol yn anghyfreithlon, gallai gael hysbysiad cosb o £80 am anhrefn (yn y fan a'r lle). Yn ogystal â hynny, gallai deiliad trwydded gael eu herlyn, a phe baen nhw'n cael eu dyfarnu'n euog, gallen nhw gael dirwy o hyd at £5000. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gallai'r drwydded gael ei hadolygu/ei diddymu.

Cynhyrchion Tybaco

Ers mis Hydref 2007, mae'r gyfraith wedi newid a rhaid bod yn 18 oed neu hŷn, yn hytrach nag 16 oed neu hŷn, i brynu tybaco.  Felly, mae gwerthu cynhyrchion tybaco (gan gynnwys tybaco, papurau sigaréts, sigârs a sigaréts) i unrhyw un dan 18 oed bellach yn anghyfreithlon. Mae'n effeithio ar bob dull o werthu. Mae peiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco bellach wedi'u gwahardd.

Arwyddion

Bydd raid i chi arddangos arwydd o'r oedran tybaco (yr hysbysiad statudol) sy'n nodi:-

‘Mae gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw uno dan 18 oed yn erbyn y gyfraith’

Fel o'r blaen, rhaid i'r hysbysiad fod yn A3 neu'n fwy o faint (420mm x 297mm) a rhaid i'r llythrennau fod yn 36mm o daldra neu fwy. Efallai bydd arwydd o'r fath ar gael gan eich cyflenwr cynhyrchion tybaco.

System effeithiol ar gyfer atal achosion o werthu i unigolion tan oed

Dylai fod gennych chi system ar waith i atal achosion o werthu i unigolion tan oed. Dylai staff ofyn am brawf o oedran bob amser y bydd person ifanc yn ceisio prynu cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion cyfyngedig eraill. Erbyn hyn, mae llawer o fanwerthwyr wedi mabwysiadu polisi ‘Her 21 oed’, ac yn rhan ohono rhaid gofyn i unrhyw un sy'n edrych yn iau na 21 oed am brawf o'u hoedran.

I gael rhagor o wybodaeth am fathau derbyniol o brawf o oedran, a mesurau eraill y gallwch chi eu cyflwyno yn rhan o'ch system, ewch i www.tradingstandardswales.org.uk.

Hyfforddi Staff

Sicrhewch fod aelodau o staff yn cael eu hyfforddi'n llawn ar y newid i'r gyfraith, a'u cyfrifoldebau nhw yn ei sgil. Dylech chi hefyd sicrhau bod aelodau o staff yn dilyn y systemau sydd gennych chi ar waith i osgoi achosion o werthu i unigolion tan oed. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gallai'r unigolyn sy'n gwerthu a pherchennog y busnes  fod yn atebol am achos o werthu'n anghyfreithlon.

Cardiau profi oedran

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol y Cyngor a Heddlu De Cymru'n argymell gofyn am gardiau profi oedran fel Validate neu Gardiau Dinesydd. Mae modd i bobl ifainc rhwng 12 ac 18 oed gael y cardiau yma. Nod y cardiau yw sicrhau y caiff cynhyrchion eu gwerthu i'r rheini sydd â hawl gyfreithiol i'w prynu. Maen nhw hefyd o gymorth i bobl sy'n edrych yn iau i brofi eu hoedran.

Bydd adran Safonau Masnach a'r heddlu'n cynnal arbrofion gyda gwirfoddolwyr ifainc. Byddan nhw'n ceisio darganfod os gofynnir i'r gwirfoddolwyr brofi eu hoedran. Dylai pob aelod o staff gael ei hyfforddi i ofyn am brawf oedran ym mhob achos a dylai aelodau o staff gael hyfforddiant gloywi yn rheolaidd. Dylai aelodau o staff mewn siopau gael eu hyfforddi i weithio gyda chwsmeriaid a allai fod dan oed yn effeithiol ac yn ystyriol. Cofier mai'r rhai sy'n gwybod eu bod yn edrych yn ddigon hen a fydd yn ceisio prynu cynhyrchion yn aml, drostyn nhw eu hunain a thros eu ffrindiau.

Beth yw'r cosbau am dorri'r gyfraith?

Dyma'r cosbau uchaf a gaiff eu cyflwyno i unigolion sydd wedi'u cael yn euog:-

  • £2,500 am werthu cynhyrchion tybaco i unigolion tan oed
  • £1,000 am beidio ag arddangos yr hysbysiad statudol

Ble y gallaf i gael rhagor o ganllawiau?

Os oes angen unrhyw ganllawiau eraill arnoch chi, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf drwy ffonio 01443 425001 neu ewch i www.tradingstandardswales.org.uk er mwyn lawrlwytho taflenni ffeithiau, posteri ac adnoddau eraill i'ch cynorthwyo i gydymffurfio â'r gyfraith.