Skip to main content

Diweddariad ar Ysgolion - Gwybodaeth a chyngor

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyngor Iechyd Cyhoeddus i Ysgolion: Coronafeirws ers 5 Mai 2022. Mae hyn yn uno ysgolion a lleoliadau addysg â sectorau eraill yng Nghymru o ran cyngor iechyd cyhoeddus a COVID-19.

Er bod nifer o'r mesurau a oedd ar waith yn ystod blynyddoedd academaidd blaenorol bellach wedi cael eu dileu, mae angen gwneud popeth sy'n rhesymol ymarferol o hyd i sicrhau iechyd, diogelwch a lles unigolion. Bydd rhai mesurau felly yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys asesiadau risg, hylendid dwylo ac anadlu, awyru a dilyn cyngor Llywodraeth Cymru o ran hunan-ynysu. Bydd mesurau ychwanegol ar waith yn ôl yr angen, yn seiliedig ar amgylchiadau lleol a chyngor ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd y Cyhoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr wirio i helpu ysgolion nodi mesurau ychwanegol mae modd eu hystyried yn dibynnu ar amgylchiadau lleol - rhestr-wirio-mesurau-rheoli-iechyd-cyhoeddus.pdf (llyw.cymru).

Dyma ddolen i dudalen Cwestiynau Cyffredin sydd wedi'i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys ystod o feysydd sy'n berthnasol i drefniadau gweithredol mewn ysgolion.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymruhttps://llyw.cymru/coronafeirws

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw un o dri phrif symptom Covid-19 gadw draw o'r ysgol, dilyn y canllawiau hunanynysu a chyflawni prawf llif unffordd. Mae modd archebu'r rhain ar wefan y GIG gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu drwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim).

Y tri phrif symptom o COVID-19 yw:

  • peswch newydd, parhaus
  • twymyn neu dymheredd uchel
  • colli eich synnwyr o flas neu arogl neu sylwi ar newid ynddo

Hunanynysu ac Arholiadau

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunan-ynysu wedi'u newid i gynnwys y rhai sy'n sefyll arholiadau - Hunan-ynysu: canllawiau i bobl â COVID-19 a'u cysylltiadau | LLYW.CYMRU

Rydyn ni'n gofyn i rieni/gwarcheidwaid/disgyblion sicrhau bod gyda disgyblion sy’n sefyll arholiadau Brofion Llif Unffordd ar gael gartref fel y gall unrhyw ddisgybl sy'n dangos symptomau gyflawni prawf yn gyflym a chysylltu â’u hysgol ar frys os bydd canlyniad prawf positif.

Mae canllawiau ar arholiadau hefyd wedi'u creu gan CBAC a'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ac mae'r dolenni isod:

Presenoldeb

Mae tystiolaeth o gydberthynas gadarn wedi'i chofnodi rhwng presenoldeb cadarnhaol a chanlyniadau disgyblion. Mae mynychu'r ysgol yn orfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Gynghorau bod modd ailgyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb mewn ysgol lle mae’r trothwy’n cael ei fodloni a bydd ceisiadau gan ysgolion yn cael eu hystyried o 9 Mai 2022 ymlaen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghod Ymddygiad Hysbysiad Cosb Benodedig RhCT a pholisi mynychu'r ysgolion eu hunain.