Skip to main content

Triniaeth Rheoli Plâu - Adeiladau'r Awdurdod Lleol ac eiddo cymdeithasol gwag

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu effeithiol ar gyfer amrywiaeth o blâu mewn safleoedd sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol, eiddo tai cymdeithasol / rhent preifat gwag ac ardaloedd cymunedol mewn eiddo tai cymdeithasol / rhent preifat.

Nodwch: Dydy'r Cyngor ddim yn darparu Gwasanaeth Rheoli Plâu i safleoedd masnachol a busnesau ar hyn o bryd.

Oherwydd y galw presennol ar y gwasanaeth, mae rhywfaint o oedi wrth ddarparu gwasanaeth Rheoli Plâu ar hyn o bryd. O ganlyniad, does dim modd i ni warantu y byddwn ni'n ymweld â’ch eiddo am y tro 1af o fewn 2 ddiwrnod.

Nodwch: O 1 Ebrill 2023, bydd y Cyngor ond yn darparu triniaethau rheoli plâu ar gyfer llygod mawr, llygod, pỳcs (bedbugs) a chwilod duon (cockroaches).

Costau a ffïoedd ar gyfer plâu y mae modd eu trin mewn safleoedd sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol

Pla

Lleoliad   y driniaeth

Nodiadau

Cyfanswm   gan gynnwys TAW

Llygod Ffrengig/Llygod 

Y tu mewn a thu allan i'r eiddo

Mae’r gost yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad dilynol, os yw hynny’n angenrheidiol.

Yn ystod yr ymweliad olaf, bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn cael ei waredu.
Os na all y Swyddog Rheoli Plâu gael mynediad ar yr apwyntiad y cytunwyd arno, bydd hyn yn cael ei gyfrif fel ymweliad

£112.40

Chwilod Duon a Llau Gwely

Y tu mewn i'r eiddo yn unig

Hyd at ddwy driniaeth chwistrellu, ar wahân  i chwilod   duon a allai gymryd  uchafswm o dri ymweliad

£59.50

Costau a ffïoedd ar gyfer plâu y mae modd eu trin mewn tai cymdeithasol gwag / eiddo rhent preifat a mannau cymunedol mewn tai cymdeithasol / eiddo rhent preifat:

Pla

Lleoliad   y driniaeth

Nodiadau

Cyfanswm   gan gynnwys TAW

Llygod Ffrengig neu lygod

Y tu mewn a thu allan i'r eiddo

Mae’r gost yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad dilynol, os yw hynny’n angenrheidiol.

Yn ystod yr ymweliad olaf, bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn cael ei waredu.

Os na all y Swyddog Rheoli Plâu gael mynediad ar apwyntiad y cytunwyd arno, bydd hyn yn cael ei gyfrif fel ymweliad.

 

£246.60

Chwilod duon a Llau Gwely

Y tu mewn i'r eiddo yn unig

Hyd at ddwy driniaeth chwistrellu, ar wahân i chwilod duon a   allai gymryd  uchafswm o dri ymweliad

£121.10

Beth sy'n digwydd ar ôl archebu triniaeth?

Nod y Cyngor yw cynnal ymweliadau rheoli plâu o fewn dau ddiwrnod gwaith. Byddwch chi'n derbyn galwad ffôn i drefnu dyddiad addas i ymweld â chi.

Bydd swyddog rheoli plâu y Cyngor yn ymweld â chi rhwng 9.00am a 4.00 pm ddydd Llun i ddydd Gwener. (Bydd yr ymweliadau un ai yn y bore neu'r prynhawn).

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y pris ar gyfer gwahanol fathau o blâu?

Llygod mawr/Llygod
Mae’r gost yn cynnwys tri ymweliad i ddelio â’r broblem. Os bydd angen mwy na thri ymweliad, bydd angen gwneud taliad pellach.  

Mae’r gost uchod yn cynnwys ymweliad cychwynnol i ddarganfod a thrin y broblem, ac yna dau ymweliad ychwanegol, os yw hynny’n angenrheidiol. Bydd unrhyw wenwyn sy’n weddill yn yr ymweliad olaf yn cael ei waredu yn unol â chynllun stiwardiaeth gwenwyn llygod i amddiffyn bywyd gwyllt a rhywogaethau nad ydyn nhw’n darged.

Llau gwely

Bydd y gost yn cynnwys dwy driniaeth lawn o’r holl leoedd cysgu yn yr eiddo. Dylai’r ail ymweliad fod dau wythnos ar ôl yr ymweliad cyntaf. Dylai deiliaid yr eiddo ddilyn y cyngor a gaiff ei roi iddyn nhw er mwyn sicrhau bod y driniaeth mor effeithiol â phosibl.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd rhaid archebu hyn.

Chwilod Duon
Mae’r gost yn cynnwys uchafswm o dri ymweliad i drin y broblem. Bydd y Swyddog Rheoli Plâu yn rhoi cyngor ar y cyfnod a argymhellir rhwng yr ymweliadau.

Os bydd angen triniaeth ychwanegol, bydd angen archebu hyn.

Canslo'ch apwyntiad.

Dim ond hyn a hyn o swyddogion sydd gyda ni a byddan nhw'n ceisio eu gorau glas i gadw at eu hapwyntiadau gyda chi - byddwn ni'n ddiolchgar pe gallech chi wneud yr un peth.

Os ydych chi'n methu â chadw at eich apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01443 425001 cyn gynted ag y bo modd er mwyn trefnu apwyntiad addas arall.

Colli apwyntiad

Os byddwch chi'n colli apwyntiad rheoli plâu bydd cerdyn galw yn cael ei adael yn eich eiddo. Os ydy'ch triniaeth yn cynnwys mwy nag un ymweliad, bydd hyn yn cyfrif fel un o'ch ymweliadau. Os ydych chi'n colli dau ymweliad, bydd eich triniaeth yn cael ei ganslo a bydd raid i chi dalu am driniaeth arall, yn ôl y costau uchod.

Ar gyfer ymweliadau trin llygod mawr, llygod bach a chwilod duon, mae uchafswm o dri ymweliad. Bydd colli unrhyw apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn cyfrif fel ymweliad.

Ad-daliadau

Mae modd ichi ganslo a chael ad-daliad llawn drwy ffonio 01443 425001 cyn ymweliad y Swyddog Rheoli Plâu. Os yw Swyddog Rheoli Plâu yn dod i'ch eiddo yn dilyn apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw, yna does dim modd cael ad-daliad.

Tudalennau Perthnasol