Skip to main content

Cynllun NYTH

Mae Cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru ar gael i'ch helpu chi i gadw'n gynnes ac arbed arian ar eich biliau ynni.

Mae'r Cynllun Nyth ar gael i bob aelwyd yng Nghymru ac mae'n cynnig cyngor ar arbed ynni, rheoli arian, tariffau tanwydd a budd-daliadau. 

Mae'n bosibl eich bod chi'n gymwys i gael gwelliannau i'ch aelwyd o ran arbed ynni yn rhad ac am ddim os ydych chi'n bodloni'r tri amod yma:

  • Rydych chi'n berchen ar eiddo, neu'n ei rentu'n breifat (nid cartrefi'r awdurdod lleol na chymdeithas tai)
  • Mae eich aelwyd yn aneffeithlon o ran ynni ac yn ddrud i'w wresogi
  • Rydych chi neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw yn derbyn budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd NEU gyda chyflwr cronig anadlol, cylchredol neu gyflwr iechyd meddwl ac incwm sydd o dan y trothwyon diffiniedig

Mae modd i'r gwelliannau i'ch aelwyd o ran arbed ynni gynnwys boeler gwres canolog newydd neu ddeunydd inswleiddio.

Os yw'n anodd gwresogi eich aelwyd, cysylltwch â Nyth ar 0808 808 2244 i gael cyngor rhad ac am ddim ac i weld a ydych chi'n gymwys i gael gwelliannau i'ch aelwyd o ran arbed ynni, neu ewch i Nyth Cymru am ragor o wybodaeth.