Skip to main content

Eiddo gwag

Mae'r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod tua 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru. Gallai rhai o'r adeiladau yma roi cartref i'r sawl sydd eu hangen nhw.  

Mae eiddo gwag i bob pwrpas yn adnodd diffrwyth, yn gost ariannol, ac mewn sawl achos, yn gyfle i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen. Nid yn unig maen nhw'n wastraff ar adnodd gwerthfawr, gallan nhw hefyd ddifrodi golwg cymunedau ac achosi trallod i drigolion oherwydd hynny. Yn ogystal â hynny, gallan nhw ddenu trosedd, fandaliaid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallan nhw ddatbrisio eiddo cyfagos hefyd, ac maen nhw'n faich ar adnoddau ac amser y Cyngor, yr Heddlu, yr Awdurdod Tân a Phartneriaethau Cymunedau Diogel o ganlyniad i'r problemau maen nhw'n eu hachosi.

Roedd 2894 o gartrefi sy'n eiddo preifat gwag yn Rhondda Cynon Taf ym mis Ebrill 2022 (cawsant eu cyfrif yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru - PSR/004).  Dydi'r nifer yma ddim yn cynnwys eiddo gwag trosiannol tymor byr. Yn 2021-22, cafodd 273 o eiddo gwag eu gwneud yn addas i'w defnyddio eto drwy gamau gorfodi, grantiau, benthyciadau neu gyngor. 

Cyngor i Berchenogion Tai Gwag 

Mae nifer o opsiynau ar gael i chi:

Adnewyddu'r Eiddo

Mae benthyciadau di-log ar gael trwy Gynllun ‘Troi Tai'n Gartrefi’ Llywodraeth Cymru. Mae modd benthyg hyd at £25,000 fesul eiddo (uchafswm o £150,000 fesul ymgeisydd) i adnewyddu eich eiddo gwag i gael ei werthu neu ei rentu. Am ragor o wybodaeth ac i ofyn am becyn cais am Fenthyciad i Landlordiaid, ffoniwch y Garfan Strategaeth Dai ar 01443 281136 neu e-bostiwch StrategaethDai@rctcbc.gov.uk . Mae modd i chi hefyd fynd i wefan 'Troi Tai'n Gartrefi' Llywodraeth Cymru.

Mae grantiau ar gael i breswylwyr sy'n awyddus i adnewyddu eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir er mwyn byw ynddo. Bydd raid i'r preswylwyr fyw yn y tŷ am o leiaf 5 mlynedd neu bydd raid iddyn nhw dalu'r grant yn ôl. Mae modd dod o hyd i fanylion yma.

Os byddwch chi angen adeiladwr, chwiliwch am un sydd wedi cael ei gymeradwyo gan sefydliad fel Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr. Mae gwaith adeiladu ar dai gwag yn agored i TAW gostyngol o 5% neu 0%, yn ddibynnol ar ba mor hir mae'r eiddo wedi bod yn wag. Mae modd dod o hyd i fanylion yma.

Os dydych chi ddim yn gallu talu costau'r gwaith atgyweirio neu os yw'n anodd trefnu'r gwaith (oherwydd eich bod yn byw yn bell i ffwrdd er enghraifft), efallai y byddwch chi'n ystyried gwerthu'r eiddo i adeiladwr neu ddatblygwr am bris gostyngol.

Gwerthu'r Eiddo

Gallwch ei werthu drwy swyddfa gwerthu tai, mewn arwerthiant, neu drwy hysbysebu'r eiddo. Sicrhewch fod arolygwr eiddo proffesiynol neu werthwr tai yn prisio'ch eiddo. Gosodwch bris ar yr eiddo, ond penderfynwch ba mor hyblyg y byddwch chi oherwydd bydd prynwyr potensial o bosibl yn ceisio trafod y pris yma gyda chi. Os oes angen llawer o waith adnewyddu ar yr eiddo, sicrhewch fod y pris a ofynnir amdano yn realistig.

Mae gan y Swyddog Tai Gwag restr o ddatblygwyr a fyddai eisiau prynu tai gwag a gall y swyddog roi eich manylion iddyn nhw pe hoffech chi.

Rhentu'r Eiddo

Os ydy'ch tŷ yn barod i symud mewn iddo, gallwch ei rentu. Yn gyffredinol, gallwch chi gael rhwng £135–£250 bob wythnos drwy rentu tŷ gyda thair ystafell wely yn Rhondda Cynon Taf. Byddai rhentu drwy asiantaeth yn lleihau'r drafferth a'r cyfrifoldebau ar eich ysgwyddau, ond byddai'n rhaid ichi dalu am ddefnyddio'r gwasanaeth yma. Am wybodaeth ynghylch dod yn landlord, gweler Landlordiaid Preifat – Gwybodaeth a Chyngor.

ASIANTAETH GOSOD TAI CYMDEITHASOL

Mae'r Awdurdod yn cynnal cynllun prydlesu ar gyfer landlordiaid sy'n gallu darparu tai o ansawdd da am incwm misol. Mae'r eiddo'n cael ei brydlesu am isafswm o 5 mlynedd ac yn cael ei ddefnyddio i helpu'r rheiny sydd angen tai yn ogystal â darparu landlordiaid â gwasanaeth rheoli llawn â rhent wedi'i sicrhau

www.rctsociallettingagency.co.uk/CY/Home.aspx

Oes gyda chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r cynllun yma? Cysylltwch gan ddefnyddio’r manylion isod:

E-bost: GosodTaiCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281490

Llythyr: Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF371DU.

Beth os ydych chi'n gadael yr eiddo'n wag?

Rhaid i chi gadw'r eiddo a'r tir o'i amgylch mewn cyflwr da. Byddai'n ddoeth sicrhau ei fod yn ymddangos bod rhywun yn byw ynddo i atal troseddwyr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallwn ni roi cymorth i chi ynghylch gwerthu, rhentu neu ailwampio'r tŷ, ond os yw'r tŷ yn adfeiliedig neu'n niwsans i gymdogion, gallwn ni gymryd camau cyfreithiol i sicrhau eich bod yn unioni'r cam. 

Treth y Cyngor

Os oes rhaid i ni ymgymryd â gwaith argyfwng a dydych chi ddim yn talu'r bil neu dydych chi ddim yn talu treth y cyngor, gallwn ni eich gorfodi chi i werthu'r tŷ. O 1 Ebrill 2023, bydd y Cyngor yn defnyddio ei bwerau disgresiwn ac yn cyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor, sef 50% ar gyfer cartrefi sydd wedi bod yn wag rhwng 1 a 2 flynedd (cynnydd o 50% o'r lefel bresennol os oedd wedi'i feddiannu); a 100% ar gyfer cartrefi sydd wedi bod yn wag am o leiaf dwy flynedd (cynnydd o 100% o'r lefel bresennol os oedd wedi'i feddiannu). Bydd hyn yn dod i rym o 1 Ebrill 2023. Mae'n amlwg dydy cadw'ch eiddo'n wag dros gyfnod hir o amser ddim o fudd i chi.

Cyngor i gymdogion a phobl eraill sydd â diddordeb mewn tai gwag

Os ydych chi'n ceisio darganfod pwy sy'n berchen ar dŷ gwag, cysylltwch â'r gofrestr gyhoeddus yng Nghofrestrfa Tir Cymru am fanylion neu ffoniwch 01792 355000. 

Pe hoffech chi brynu tŷ gwag neu gael gwybod pan fydd rhywun eisiau gwerthu tŷ gwag, rhowch eich manylion i'r Swyddog Cartrefi Gwag drwy ffonio'r swyddfa.

Am ragor o wybodaeth

Os oes unrhyw bryderon gyda chi mewn perthynas â thŷ gwag neu pe hoffech chi ragor o gyngor neu wybodaeth, dyma'r manylion cyswllt:

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: IechydyCyhoeddaThai@rctcbc.gov.uk

Neu drwy anfon llythyr at:
Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd,
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY