Skip to main content

E-lyfrau ac adnoddau ar-lein

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn cynnig defnydd rhad ac am ddim o amrywiaeth eang o lyfrau ac adnoddau ar-lein.
Bydd rhaid i chi ymaelodi â’r llyfrgell er mwyn manteisio ar yr e-lyfrau a’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau ar-lein
Llyfrau Llafar uLIBRARY - Ulverscroft

Dyma fodd o fwynhau llyfrau poblogaidd ble bynnag yr ydych chi.

Mae dewis gwych o awduron poblogaidd, sy'n cynnwys Lee Child, Ann Cleeves a James Patterson. Dyma gyfle i chi lawrlwytho a gwrando ar lyfrau llafar sydd wedi'u recordio gan rai o berfformwyr gorau'r byd.

BorrowBox –Gwasanaeth Lawr-lwytho 

Benthyg, lawr-lwytho a mwynhau! Mae BorrowBox yn gartref i’r e-lyfrau a’r llyfrau llafar gorau gan awduron penigamp o Awstralia a thu hwnt. Eich llyfrgell mewn un ap.

Yn ogystal ag ePress (yn cynnwys mynediad at e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd)”

(Bydd angen eich rhif aelodaeth a rhif adnabod/PIN)

LIBBY– Cylchgronau Digidol

Gwasanaeth Ar-lein – Cylchgronau Digidol 24/7

  • Copïau Digidol llawn o’ch hoff gylchgronau
  • Defnydd di-derfyn o’n casgliad; caiff rhifynnau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd
  • Darllenwch gylchgronau ar eich cyfrifiadur personol neu ddyfais symudol

Transparent Language Online

Dull dysgu ieithoedd gyda benthycwyr y llyfrgelloedd mewn golwg.

Mae'n rhaglen dysgu ieithoedd ar gyfer llyfrgelloedd, a'u defnyddwyr. Mae'n darparu profiad effeithiol, hwylus a deniadol i ddysgwyr ar bob lefel. (Bydd angen eich rhif aelodaeth a rhif adnabod/PIN i ddefnyddio’r cyfleuster)

Mae Transparent Language Online ar gael mewn dros 110 o ieithoedd.

Find My Past – Fersiwn i Lyfrgelloedd Library Edition

Hawl i gyrchu dros 2 biliwn o gofnodion hanes teulu.

Mae mynediad AM DDIM i Find My Past ar gael ym mhob un o Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.

(Bydd angen eich rhif aelodaeth a rhif aelodaeth/PIN i ddefnyddio’r cyfleuster)

Ancestry – Fersiwn i Lyfrgelloedd

Bydd angen eich rhif aelodaeth a'ch rhif 'pin' arnoch chi.

Chwiliwch drwy biliynau o gofnodion i olrhain hanes eich teulu.

Mae mynediad i Ancestry Library Edition ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd cangen. 

Mae modd cyrchu’r adnoddau canlynol ar-lein drwy gyfrifiaduron y llyfrgell sy’n cynnig mynediad i’r cyhoedd.

Issues Online

Mae Issues Online yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol cyfoes. Mae cyfoeth y wybodaeth sy'n cael ei darparu ynglŷn â phynciau fel hunan-niwed, beichiogrwydd ymhlith pobl ifainc yn eu harddegau ac ysmygu yn golygu ei fod yn adnodd amhrisiadwy i unrhyw un sy'n astudio materion cymdeithasol heddiw.

Theory Test Pro

Mae cwestiynau prawf swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar gyfer ceir, beiciau modur, cerbydau cludo teithwyr, cerbydau nwyddau mawr a chlipiau canfod peryglon, ynghyd â fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr.

Llwybr Treftadaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf

Dyma wefan sy'n cynnwys eitemau o gasgliadau hanes lleol Rhondda Cynon Taf. Mae'n fan cychwyn ardderchog i unrhyw un sy'n awyddus i gael gwybod am dreftadaeth ddiwylliannol, cymdeithasol a diwydiannol gyfoethog y Fwrdeistref Sirol. Mewngofnodwch a darganfod dros 200 mlynedd o hanes sydd werth ei weld.

Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Taf

Dyma ein gwefan fwyaf poblogaidd, gyda thros 2,000 o ymwelwyr y mis. Mae'n cynnwys lluniau digidol o bobl a lleoedd Rhondda Cynon Taf sy'n rhan o'r casgliadau sydd ym meddiant Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae dros 22,000 o ddelweddau ar gael ar y wefan. Maen nhw'n dangos pob agwedd ar fywyd yn ardal Rhondda Cynon Taf, ers tua 1880 hyd at heddiw.

Mynediad i Ymchwil

Darganfyddwch fyd ymchwil academaidd cyhoeddedig yn eich llyfrgell leol.