Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwasanaeth llyfrgelloedd cynhwysfawr i drigolion y Fwrdeistref Sirol, sy'n cynnwys 13 llyfrgell; 2 lyfrgell symudol; gwasanaeth llyfrgell yn y cartref, lle mae llyfrau'n cael eu hanfon i gartrefi defnyddwyr; gwasanaeth y llyfrgelloedd i ysgolion; yn ogystal â gwasanaethau ar-lein ac e-lyfrau.
Er 2015, mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £1.7miliwn er mwyn gwella a moderneiddio Gwasanaeth y Llyfrgelloedd.