Skip to main content

Celfi Stryd – arwyddion, celfi, biniau – Rhowch wybod am ddifrod

Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw ddifrod i gelfi stryd, neu fod rhywbeth wedi mynd ar goll, rhowch wybod i ni. Byddwn ni’n archwilio’r difrod ac yn ymateb yn brydlon er mwyn trwsio unrhyw broblemau sydd angen eu gwneud ar frys.                   

Mae celfi stryd yn cynnwys - biniau sbwriel, biniau sigaréts, basgedi crog, seddau, meinciau, amddiffynyddion coed, planwyr, byrddau gwybodaeth, bolardiau, pyst a rheiliau.

Gallwch chi roi gwybod i ni am unrhyw ddifrod i arwyddion stryd drwy lenwi’n ffurflen ar-lein

Sut ydw i’n rhoi gwybod am gelfi stryd sydd wedi’u difrodi neu sydd wedi torri?

Rhowch wybod i ni am gelfi stryd sydd wedi’u difrodi neu sydd wedi torri, cysylltwch â ni drwy’r manylion isod.

Cofiwch roi’r wybodaeth isod i ni: -

  • Enw’r stryd a’r ardal
  • Ble ar y stryd, e.e.; ydy’r difrod yn agos at dŷ neu gyffordd?
  • Disgrifiad a manylion y difrod.
  • Eich enw chi a’ch rhif ffôn.
  • Dyddiad ac amser sylwoch chi ar y difrod.
  • Gwelsoch chi unrhyw bobl neu gerbydau a oedd yn gyfrifol am y difrod, ac a oedd yr heddlu’n bresennol?

Cysylltwch â ni

Streetcare Services

Gwasanaethau Gofal y Strydoedd

Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest

Pontypridd
CF37 5TT 

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310

Rhif Ffôn Argyfwng Tu Allan i Oriau Swyddfa: 01443 425011 (Nosweithiau a Phenwythnosau)