Skip to main content

Rhoi gwybod i ni am broblem gyda'r palmentydd

Os ydych chi'n gweld rhan o balmant sydd yn rhydd, wedi torri neu sydd ar goll, bydd modd i chi roi gwybod i ni am hyn ar-lein.
Rhoi gwybod i ni am broblem sy'n ymwneud â phalmant ar-lein

Pa mor gyflym ydyn ni'n trwsio problemau sy'n ymwneud â phalmentydd?

Mae problemau sy'n ymwneud â phalmentydd yn cael eu dyrannu'n achosion brys neu'n achosion sydd heb fod ar frys.

  • Achosion brys: Bydd y rhain yn cael eu trwsio neu'n cael eu gwneud yn ddiogel erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf ar ôl eu darganfod. Serch hynny, mae problem palmant sy'n cael ei hystyried yn beryglus iawn, ac sy'n gallu achosi damwain ffordd neu anaf, yn cael ei thrin yn argyfwng. Ein nod ni yw trwsio neu wneud palmant o'r fath yn ddiogel o fewn dwy awr.
  • Achosion sydd heb fod ar frys: Bydd y rhain yn cael eu trwsio o fewn 28 diwrnod ar ôl eu darganfod.

Sylwch: Os cyrff neu unigolion allanol sy'n gyfrifol am y palmant, bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i'r bobl hynny (os ydyn ni'n gwybod pwy sy'n gyfrifol) ar unwaith.