Skip to main content

Gwybodaeth am amserlenni'r bysiau/trenau

Mae'r gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu amseroedd a gwybodaeth am holl lwybrau'r bysiau, coetsys, trenau, fferïau ac awyrennau yng Nghymru.

  • Ffôn: 0800 464 0000 (llinell Gymraeg neu Saesneg ar agor 7am–8pm bob dydd)

Mae Traveline Cymru yn darparu amseroedd a gwybodaeth am holl lwybrau'r bysiau, coetsys, trenau, fferïau ac awyrennau yng Nghymru.

  • Neges destun: 84268 – bydd eisiau i chi ddod o hyd i gôd unigryw'r safle bws (sy'n cynnwys saith llythyren, ac sydd i'w weld ar y safle bws neu ar wefan Traveline Cymru) a'i anfon i 84268. Yna, byddwch chi'n derbyn neges destun a fydd yn nodi amseroedd a rhifau gwasanaeth y pedwar bws nesaf a fydd yn cyrraedd y safle bws dan sylw, ynghyd ag i ble maen nhw'n mynd.
  • Ar-lein: www.traveline.cymru

Mae Trafinidiaeth Cymru hefyd yn gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

  • Ffôn: 0333 3211 202  (llinell ar agor Llun–Sadwrn, 8am–8pm; a dydd Sul, 11am–8pm)
  • Ar-lein: Trafinidiaeth Cymru

Mae Ymholiadau National Rail yn eich galluogi chi i chwilio am deithiau ar y rheilffyrdd cenedlaethol ac i archebu tocynnau.