Edrychwch ar y cireteria cymhwysedd cyn gwneud eich cais isod:
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i’r plant hynny mae’u rhieni neu warcheidwaid yn gallu profi eu bod nhw’n hawlio un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd:
- Credyd Treth i Blant – lle bod cyfanswm yr incwm blynyddol heb fod dros £16,190
- Cymhorthdal Incwm (gyda chyfrifoldeb dros blant)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (gyda chyfrifoldeb dros blant)
- Cymorth o dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Pensiwn y Wladwriaeth (Elfen Gwarant)
- Mae disgyblion sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Credyd Cynhwysol (os dylai'r enillion net blynyddol fod yn £7,400 neu lai)
- Taliadau Credyd Treth Gwaith ychwanegol – y taliadau ychwanegol y gall unigolyn eu derbyn am bedair wythnos yn ychwanegol ar ôl i’w hawl i dderbyn Credyd Treth Gwaith ddod i ben
Mae disgyblion sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Ydw i’n gymwys os ydw i’n hawlio Credydau Treth Gwaith (gydag incwm heb fod dros £16,190)?
Nac ydych. Unwaith na fyddwch chi’n gymwys i hawlio Credydau Treth Gwaith dim rhagor, mae gofyn eich bod chi’n rhoi gwybod i Adran Cyllid y Wlad, a chan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai bydd modd dechrau prydau ysgol am ddim.
Bydd gofyn ichi gyflwyno un o’r dogfennau canlynol yn gefn i’ch cais.
- Copi o’r dudalen "Sut mae cyfrifo’ch Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith" sy'n rhan o lythyr diweddar. Os does dim copi gyda chi, cysylltwch â’ch Asiantaeth Budd-daliadau leol
- Copi o’ch Hysbysiad Treth Cyfredol. Os does dim copi gyda chi, cysylltwch â Gwifren Gymorth Cyllid y Wlad ar 0845 300 3900
- Copi o’ch Hysbysiad Credyd Pensiwn Cyfredol (M1000) neu Hysbysiad Credyd Treth i Blant (TC602)
- Mae gofyn bod y sawl sy’n ceisio noddfa’n cyflwyno Rhif Cyfeirnod NASS i gadarnhau’ch hawl
Serch hynny, os ydych chi ar hyn o bryd yn derbyn Budd-dalidau Tai/Treth y Cyngor, mae cofnod eisoes gyda ni o'ch incwm. Felly, fydd dim rhaid i chi gyflwyno'r wybodaeth yma oni bai ein bod ni'n gofyn amdani.
Cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim
Mae gofyn eich bod chi’n llenwi ffurflen gais i hawlio prydau ysgol am ddim, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod:
Wneud cais ar-lein gael prydau ysgol am ddim
Unwaith eich bod chi'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, byddwch chi'n gymwys i dderbyn grant gwisg ysgol a / neu lwfans a gaiff ei weinyddu gan ysgolion uwchradd.
Gallwch wneud eich cais ar-lein neu fel arall mae ffurflenni cais ar gael yn yr ysgol hefyd. Mae manylion cyswllt ein hysgolion i gyd ar gael trwy ddefnyddio dolen Chwilio am Ysgol.
Newid yn eich amgylchiadau
Os ydych chi’n hawlio prydau ysgol am ddim a bod newid yn eich amgylchiadau a all effeithio ar eich hawl i hawlio, mae hi’n hollbwysig eich bod chi’n rhoi gwybod inni ar unwaith: prydauysgolamdimm@rctcbc.gov.uk