Skip to main content

Cymorth 'prydau Ysgol am Ddim' i deuluoedd disgyblion cymwys

Cymorth ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael, sef £3.90 y dydd fesul disgybl cymwys, i wneud yn siŵr bod darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol hyd at a chan gynnwys hanner tymor gwanwyn 2023, gan gynnwys gwyliau banc ar 1 ac 8 Mai 2023.

Bydd taliadau BACS yn cael eu talu i deuluoedd cymwys fel a ganlyn:

Dyddiadau cymwys

£ fesul disgybl

Talu erbyn

1 ac 8 Mai

£7.80

28 Ebrill

29 Mai – 2 Mehefin

£19.50

26 Mai

Waeth a ydyn nhw'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ai peidio, mae gan ddisgyblion Dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2 a disgyblion cymwys Dosbarthiadau Meithrin hawl i dderbyn prydau ysgol trwy gynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.

I fod â hawl i dderbyn y taliad dros y gwyliau, rhaid i chi fod wedi gwneud cais i dderbyn prydau ysgol am ddim, hyd yn oed os yw eich plentyn yn derbyn pryd ysgol am ddim o dan y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae hawl bosibl i gael Grant Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad yn flaenorol) hefyd yn dibynnu ar gais llwyddiannus am brydau ysgol am ddim.

Os na fydd teuluoedd cymwys yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim trwy’r Cyngor, bydd yn effeithio ar faint o gyllid y mae ysgolion unigol yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu bod gan yr ysgol lai o arian nag y mae ganddi hawl iddo er mwyn darparu addysg a chymorth i'ch plant.