Skip to main content

Rhoi gwybod am achosion o wastraff wedi'i adael yn anghyfreithlon

Os ydych wedi darganfod gwastraff sydd wedi'i adael yn anghyfreithlon, bydd modd i chi roi gwybod am hyn ar-lein.
Bydd gofyn i chi nodi lleoliad y gwastraff a disgrifiad o'r math o wastraff sydd wedi'i adael. Bydd y gwastraff yn cael ei symud o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os gweloch chi'r gwastraff yn cael ei adael, bydden ni'n croesawu'r manylion canlynol:

  • pryd digwyddodd hyn
  • manylion y cerbyd a'r rhif cofrestru
  • disgrifiad o'r unigolyn a adawodd y gwastraff

Mae croeso i chi aros yn ddienw, neu fod ar gael i roi datganiad os ydy'r troseddwr yn cael ei erlyn. Fydd y troseddwr ddim yn cael gwybod eich manylion personol.

Sut mae'r Cyngor yn delio â gwastraff sy'n cael ei adael yn anghyfreithlon?

Mae gyda ni garfan ymateb yn gyflym i gael gwared ar wastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon ond rydyn ni hefyd yn ceisio dwyn achos yn erbyn unrhyw un gaiff ei ddal yn gadael gwastraff.

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth casglu eitemau mawr, felly does dim angen i neb adael gwastraff. Hoffech chi wybodaeth am ein gwasanaeth casglu eitemau mawr? Ewch i'r dudalen Sbwriel cartref - casgliadau arbennig ar gyfer eitemau mawr.

Atafaelu Cerbyd

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yr awdurdod i atafaelu cerbyd, ôl-gerbyd, neu offer symudol, ynghyd â'r cynnwys, os byddwn ni o'r farn y caiff y rhain eu defnyddio ar gyfer troseddau gwastraff, megis gadael gwastraff yn anghyfreithlon (tipio).

Gweld hysbysiadau atafaelu cerbydau

Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n dod ar draws gwastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon?

  • Peidiwch â chyffwrdd â’r gwastraff. Mae gwastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon yn gallu bod yn beryglus, a gall gynnwys eitemau miniog neu gemegau.
  • Edrychwch ar y gwastraff a cheisio dyfalu'r math o wastraff a faint ohono sydd yno.
  • Nodwch union leoliad y gwastraff ac a yw e ar bwys dŵr neu mewn dŵr.
  • Peidiwch â symud dim ar y safle – mae’n bosibl bod tystiolaeth allai ein helpu i ddal y troseddwyr a dwyn achos yn eu herbyn.

Gwasanaeth Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf,
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest,
Pontypridd
CF37 5TT

E-bost: gwasanaethauigwsmeriaid@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310

Tudalennau Perthnasol