Skip to main content
 

Parc Beicio Teulu Grarychedd

Mae Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd yn brofiad anhygoel i bob aelod o'r teulu.

Dewch â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni ar y safle.

Ewch i ben Mynydd dramatig Penrhiwllech a pharatoi i wibio i lawr y llwybrau, gan stopio wrth nifer o draciau pwmp ar hyd y ffordd.

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth codi, gan fynd â chi a'ch beic i ben y llwybrau fel bod modd i chi arbed eich egni ar gyfer y daith yn ôl i lawr.

I drefnu lifft, e-bostiwch GBP@ultimate-consortium.co.uk neu ffoniwch 07596 213 613. Mae modd cadw lle ar y dydd hefyd.

Mae Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 6.30pm. 

MAE'R CAFFI AR AGOR Mae coffi, te, diodydd oer, hufen iâ a brechdanau ar gael yno.

GWEITHDY  Ar agor *yn dibynnu ar  argaeledd staff. Mae modd cysylltu â ni yn ystod yr wythnos i gadw lle mewn gweithdy sydd i’w gynnal ar y penwythnos .

HYFFORDDIANT  Rydyn ni'n cynnig rhaglen hyfforddi lefel mynediad i blant er mwyn magu hyder a dysgu sgiliau sylfaenol. Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni am ragor o wybodaeth.

LLOGI BEICIAU Mae gyda ni nifer o feiciau maint oedolion a phlant ar gael i'w llogi (XL hyd at 20") gan gynnwys beiciau cydbwysedd am ddim.

Mae SIOP FEICIAU ar y gweill.

DYDDIAU / AMSEROEDD CODI

Dyddiau Sadwrn / Sul

9.30am - 12.30pm

1.30pm - 4.30pm

Fydd y gwasanaeth lifft beiciau ddim ar gael rhwng 12.30pm a 1.30pm.

*Mae modd cadw lle am ddiwrnod gyda'r gwasanaeth lifft beiciau*

PRISIAU DIWRNOD LLAWN Y GWASANAETH LIFFT BEICIAU

Oedolion £30

Plant iau nag 16 oed £20

HANNER SESIWN am/pm

Oedolion £20

Plant iau nag 16 oed £13

PRISIAU LLOGI BEICIAU 9.00am - 4.30pm

Oedolion £20

Plant £15

Beic Cydbwysedd - Am Ddim

Rhaid dangos ID

Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau neu i gadw lle.

E-bost: GBP@ultimate-consortium.co.uk

Ffôn: 07596213613

Mae'r garfan yn edrych ymlaen at weld pawb eto yn ystod y tymor yma.